Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 5 Hydref 2022.
Mae bron pob un o'r plant a phobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at y tîm yn ei chael hi'n anodd cyrraedd y cyfraddau presenoldeb disgwyliedig yn yr ysgol. Elfen hanfodol yw'r cydweithio â'r ysgol ac ymarferwyr gofal sylfaenol i helpu'r bobl ifanc i gael mynediad at addysg mewn ffordd sy'n addas ac sy'n briodol i'w hanghenion nhw. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, trafod gyda rhieni.
Mae'r tîm wedi cynllunio pecyn cymorth sy'n cynnwys canllawiau i'w defnyddio mewn ysgolion i helpu i adnabod, deall a chefnogi'r plant a'r bobl ifanc a allai fod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at addysg ac sydd angen cefnogaeth neu ymyrraeth ychwanegol. Ac er bod hwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer plant â symptomau sy'n gysylltiedig â COVID hir ac afiechydon eraill sy'n achosi blinder cronig a phoen, gellir defnyddio'r pecyn gyda llawer o blant sy'n cael trafferth gyda symptomau a all amharu ar eu haddysg nhw.
Mae deddfwriaeth, cyngor ac arweiniad, wrth gwrs, yn bwysig, ond mae'r gwaith sydd wedi'i ddatblygu gan gydweithwyr ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn rhoi enghraifft o sut i drosi hyn i rywbeth ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ac i'w canlyniadau. Mae'r gwaith a gafodd ei ddatblygu yn Aneurin Bevan wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid ar draws yr holl fyrddau iechyd ac mae cynlluniau i ddatblygu hwn yn becyn cymorth 'unwaith i Gymru'.
Dirprwy Lywydd, gall unrhyw darfu ar addysg person ifanc gael effaith gydol oes, ond gyda'r gefnogaeth gywir gellir lleihau hyn. Gyda'n gilydd, mae gan bob un ohonom ni rôl bwysig i'w chwarae, ac mae'n rhaid inni wneud ein rhan ar y cyd i greu'r amgylchedd sy'n angenrheidiol i alluogi hyn i ddigwydd. Mae eisoes mesurau mewn lle i alluogi cydweithio proffesiynol ac asiantaethol gyda mudiadau fel y Wales Neurological Alliance. Rŷn ni fel Llywodraeth yn gefnogol o waith y Migraine Trust, ond mae'n bwysig bod ein partneriaid sy'n delifro y gwasanaeth ar lawr gwlad yn gallu bod yn hyblyg yn y ffordd y maen nhw yn creu eu partneriaethau eu hunain.
Mae meigryn yn un o dros 250 o gyflyrau niwrolegol, ac mae nifer fawr yn cael eu cefnogi gan fudiadau trydydd sector, sy'n gwneud gwaith arbennig, wrth gwrs. Ond fe fyddai, wrth gwrs, yn amhosibl i ni fel Llywodraeth i weithio gyda phob un o'r rhain yn unigol. Fe all cynrychiolwyr o'r Migraine Trust ofyn i fod yn aelodau o'r Wales Neurological Alliance, ac fe fyddai hyn yn creu mecanwaith iddyn nhw i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru felly.
Mae'n rhaid i blant a phobl ifanc sydd ag unrhyw angen gofal iechyd, gan gynnwys meigryn, gael eu cefnogi i gyflawni eu potensial yn llawn, a dyna beth fyddwn ni yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.