Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 5 Hydref 2022.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw? Rwy'n credu bod pawb yn deall bod hwn yn faes pwysig iawn, ond cymhleth, a bod llawer yn digwydd, ond mae llawer i'w wneud.
Fe fyddwn yn dweud wrth Janet Finch-Saunders, sef y cyntaf i gyfrannu yn dilyn fy araith i agor y ddadl, Lywydd, ein bod yn cydnabod, yn amlwg, y tensiynau ynghylch twristiaeth, pwysigrwydd twristiaeth i'r ardaloedd hyn, a soniwyd am hynny gan eraill yn y ddadl hefyd. Yn amlwg, mae angen cydbwysedd, ond mae ein hargymhelliad y dylid cynnal gwerthusiad priodol o'r effaith ar dwristiaeth yn bwysig iawn yn fy marn i. Ond rhaid inni gydnabod—rwy'n credu eich bod wedi dweud, Janet, fod perchnogion ail gartrefi'n defnyddio gwasanaethau lleol, yn defnyddio busnesau lleol. Ond fe wyddom mai am benwythnos efallai, neu wythnos neu bythefnos y bydd rhai perchnogion ail gartrefi'n defnyddio'r eiddo mewn blwyddyn gyfan, ac fe glywsom gan y Gweinidog y gall hynny arwain at wagio cymunedau. Efallai eu bod yn drefi marw yn y gaeaf am nad yw'r busnesau a'r gwasanaethau'n gallu gweithredu yn ystod y misoedd hynny am nad oes digon o bobl o gwmpas i'w defnyddio, ac os yw'r gwagio hwnnw'n digwydd, ni fyddant yn gymunedau byw, cynaliadwy, sydd mor bwysig, fel y clywsom.
Rwy'n credu bod Mabon ap Gwynfor wedi dangos ei ymrwymiad yn glir i'r materion hyn, ac yn amlwg, maent yn bwysig iawn i Mabon yn ei ardal leol ei hun, ac rwy'n canmol Mabon ar yr ymrwymiad hwnnw a'i waith ar y pwyllgor mewn perthynas â'r mater hwn. Yn amlwg, mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur, Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn bwysig iawn i roi ffocws ychwanegol. Ac rwy'n credu ein bod bellach mewn sefyllfa, onid ydym, lle mae gennym, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ystod gyfan o gamau gweithredu'n digwydd, camau pwysig iawn i fynd at graidd y materion hyn ac yn arwain at newid, a'r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.
Mae'n hollol iawn fod gennym y cynllun peilot yn Nwyfor fel ein bod yn gwerthuso, monitro a gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn symud ymlaen ar gyfer Cymru gyfan, fod gennym sylfaen dystiolaeth gadarn iawn sy'n dweud wrthym beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio a pha ganlyniadau anfwriadol a allai fod. Felly, rwy'n credu bod dull o'r fath sy'n seiliedig ar dystiolaeth, drwy'r cynllun peilot a'r gwaith arall yr ydym wedi'i argymell ac y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, yn gwbl hanfodol.
Mae'r gwrthgyferbyniad llwyr y cyfeiriodd yr Aelodau ato rhwng eiddo Airbnb a'r rhai sydd efallai'n meddwl am y lwfans tai lleol a'r refeniw a fyddai'n deillio o hynny'n hynod o llwm, onid yw? Mae'n dangos, drwy waith Sefydliad Bevan ac eraill, yr hyn sydd angen mynd i'r afael ag ef o ran atyniad cymharol mathau penodol o ddefnydd o eiddo a'r hyn a fydd yn sicrhau cymunedau cartrefol, cynaliadwy. Ac fe wnaeth Carolyn Thomas y pwyntiau hynny hefyd. Ac fe soniodd Carolyn hefyd am yr hawl i dai, ac mae'n hawl sylfaenol, onid yw? A chawsom ddigwyddiad pwysig iawn yn y Pierhead yr wythnos o'r blaen lle'r oedd sefydliadau tai, cymdeithasau tai ac eraill, yn sôn am bwysigrwydd yr hawl i dai a'r hyn a allai ddigwydd yng Nghymru pe bai gennym ddeddfwriaeth ar waith a fyddai'n gwireddu'r hawl honno ledled ein gwlad. Ac mae honno'n ymgyrch a fydd yn parhau ac yn datblygu.
A gaf fi ganmol Sam Rowlands hefyd am ei waith ar y pwyllgor a'r dull cytbwys y mae wedi'i fabwysiadu drwyddi draw, ac rwy'n credu ei fod wedi dangos hynny eto heddiw, wrth iddo geisio sicrhau'r cydbwysedd rhwng pwysigrwydd twristiaeth, er enghraifft, a mynd i'r afael â'r materion dadleuol hyn mewn rhannau arbennig o Gymru, yn enwedig, fel yr amlygodd Sam unwaith eto, ardaloedd fel Gwynedd, Ynys Môn a Cheredigion, a phwysigrwydd edrych ar ardaloedd eraill o Gymru a'r gwersi y mae'n rhaid inni eu dysgu?
Peredur, diolch am siarad am Fienna. Mae'n enghraifft dda iawn o sut rydych yn mabwysiadu dull cymuned gyfan o fynd ati ar y materion hyn ac adeiladu cymunedau, gan edrych ar fannau gwyrdd, gwasanaethau ac anghenion cymunedol. Ac ar hynny, rwy'n credu y gallwn fod yn falch o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ar sawl achlysur gwahanol, sy'n cydnabod yr angen am ddull o'r fath a'r gwahanol fesurau a roddir ar waith i sefydlu'r dull hwnnw o weithredu.
Lywydd, hoffwn ddirwyn i ben drwy gydnabod y gwaith sydd wedi digwydd a'r gwaith sydd ar y gweill. Mae'n wirioneddol arwyddocaol. Nid camau symbolaidd yw'r rhain—mae'n waith sy'n mynd at wraidd yr heriau sy'n ein hwynebu yn yr ardaloedd penodol hynny yng Nghymru, ac ar draws ein gwlad hefyd. Ac roeddwn yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi nodi'r camau hyn ger ein bron yma heddiw—y ffaith bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn a'r ymrwymiad cryf gan y Gweinidog i gymunedau cynaliadwy, pwysigrwydd y Gymraeg, pwysigrwydd gwaith y comisiwn sy'n cael ei sefydlu a'r cyfle da i arbrofi sydd gennym yn sgil y cynllun peilot, fel y disgrifiodd y Gweinidog. Rwy'n credu ein bod yn ymrafael â materion anodd iawn, ond rydym wedi rhoi camau ar waith i gyflawni, gwerthuso a monitro a fydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen ar sail y dystiolaeth. Diolch yn fawr iawn.