Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Hydref 2022.
Llywydd, rwy'n croesawu'n fawr y fenter sydd wedi'i sefydlu yn sir y Fflint. Rydym yn gwybod nad yw anghydraddoldeb yn effeithio'n gyfartal ar bob rhan o'r gymdeithas, ac mae pobl ag anableddau wedi adrodd ers tro byd am effeithiau gormodol o ran cyflogaeth, eu gallu i gael mynediad at wasanaethau ac ati, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn sir y Fflint yn rhoi'r pwyslais penodol iawn hwnnw ar y bobl hynny a fydd yn cael y budd mwyaf o ymyrraeth gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.