1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2022.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sydd wedi dioddef colli babanod? OQ58551
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaethau profedigaeth ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys bydwragedd profedigaeth arbenigol, i helpu teuluoedd yn yr amgylchiadau unigryw hynny sy'n peri gofid mawr.
Diolch, Prif Weinidog. Gwn fod hwn yn bwnc sy'n agos at eich calon, a bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud llawer iawn i gefnogi rhieni drwy gyfnod anhygoel o anodd. Roeddwn i eisiau crybwyll profiadau fy etholwyr, a gafodd fabi yn farwanedig yn drist iawn ar ôl 40 wythnos. Fe wnaethon nhw ofyn am bost-mortem, sy'n ddealladwy, ond oherwydd y bylchau mewn patholeg bediatrig, fe gawson nhw wybod y byddai'n rhaid aros am chwe mis cyn cael y canlyniadau. Mae hwn yn arhosiad arteithiol.
Dywedodd fy etholwyr ei bod yn teimlo fel pe bai eu bywydau ar stop, a bod cyfnod sydd eisoes yn anodd yn cael ei wneud gymaint anoddach i fynd trwyddo. Dwy agwedd bwysig ar alaru yw gallu prosesu'r hyn ddigwyddodd, a'r gallu hefyd i edrych tuag at y dyfodol. Gyda chymaint o gwestiynau heb eu hateb yn parhau, mae'r oedi cyn cael y canlyniadau post-mortem yn gwneud y ddau beth yma'n anodd iawn. Mae'n ddealladwy bod rhieni'n ysu i wybod cymaint â phosibl. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â recriwtio a chadw staff yn y maes hwn, a pha gymorth ychwanegol y mae modd ei roi i rieni yn eu profedigaeth ar ôl colli eu babi?
Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o allu noddi, unwaith eto, weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yma yn y Senedd yr wythnos nesaf. Mae'r rhain ymhlith y profiadau mwyaf dinistriol y gall teuluoedd eu profi. Rydym wedi eu trafod droeon yma ar lawr y Senedd. Fe fydd rhai pobl yma'n cofio, rwy'n credu, un o'r cyfraniadau mwyaf cofiadwy yn y cyfnod y bûm i yma, pan aeth Dr Dai Lloyd ati i sôn am brofiad ei deulu wrth golli eu mab, Huw, 40 munud ar ôl iddo gael ei eni. Roedd yn un o'r cyfraniadau mwyaf pwerus i mi ei glywed yma erioed yn y Senedd.
Pan fyddwch chi'n cyrraedd yr amser, fel fi, pan fo gennych chi wyrion ac wyresau i'w hystyried hefyd, yna mae pob eiliad yn werthfawr gyda nhw, ac mae meddwl y gallen nhw gael niwed yn gyson rhywle yng nghefn eich meddwl. Felly, mae teuluoedd sy'n eu cael eu hunain yn yr amgylchiadau ofnadwy a ddisgrifiodd Jayne Bryant angen yr holl gymorth y mae'r system yn gallu ei roi iddyn nhw, gan gynnwys y cymorth sy'n dod o batholeg bediatrig.
Ddechrau mis Medi, fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gyfarfod. Mae wedi gwneud penderfyniad i gyflogi darparwr parhaol ychwanegol ar gyfer patholeg bediatrig. Mae wedi trafod y defnydd o gapasiti ychwanegol yn Ysbyty Alder Hey fel y bydd rhai teuluoedd yng ngogledd Powys a gogledd Cymru yn cael eu gwasanaethau patholeg bediatreg yno. Bydd hynny'n rhyddhau mwy o gapasiti yn system Cymru. Ac mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru hefyd wedi ymrwymo i asesu ei fuddsoddiad yng ngwasanaeth Caerdydd, i wneud yn siŵr ei fod yn gallu diwallu anghenion teuluoedd mewn modd amserol.