Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Hydref 2022.
Llywydd, rwyf i a'r Gweinidog cyllid wedi dweud y byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y pwerau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y ffordd yr ydym yn eu gwneud bob amser, fel rhan o'r broses o osod y gyllideb, pan fydd gennym yr wybodaeth lawn sydd ei hangen arnom er mwyn gallu gwneud hynny. Nawr, mae wedi gwneud achos y prynhawn yma; bydd yr achos hwnnw'n cael ei ystyried yn rymus o fewn Llywodraeth Cymru, ond bydd yn cael ei wneud yn y ffordd yr ydym yn ei wneud bob amser, yn drefnus, yn y broses o osod cyllideb, fel y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn disgwyl i ni ei wneud, a phan fyddwn yn ymwybodol o'r holl benderfyniadau a fydd yn cael effaith ar ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus y flwyddyn nesaf.