Deddf Cydraddoldeb 2010

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 11 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae gan awdurdodau lleol eu mandad a'u cyfrifoldebau democrataidd eu hunain. Mae dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn cael eu rhoi yn uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus perthnasol. Gallwn annog a chefnogi awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau hyn, ond y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth.