Pwerau Pellach i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 11 Hydref 2022

Wel, diolch i Rhys ab Owen, Llywydd, am y cwestiwn. Mae'r cyfleon i drafod gyda Llywodraeth ddiweddaraf y Deyrnas Unedig wedi bod yn brin. Ond cafodd datganoli cyfiawnder ei drafod yn helaeth mewn digwyddiad o bwys ym mhencadlys Heddlu De Cymru ar 30 Medi. Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bresennol a chlywodd ein bwriad penderfynol i fynd ar drywydd argymhellion comisiwn Thomas.