Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Hydref 2022.
Gwnaethoch chi ofyn bod dau faes yn cael eu hystyried. Yn sicr, fe wnaf i siarad â swyddfa'r Prif Weinidog i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb i'r llythyr yr ysgrifennoch chi ato fis diwethaf. O ran y data, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r data'n addas i'w gyhoeddi, oherwydd, pe bai'n cael ei gyhoeddi, gallai alluogi adnabod unigolion, ac yn amlwg byddai hynny'n destun pryder i lawer o bobl. Rwy'n credu ei fod hefyd yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, ac, yn amlwg, byddai hynny'n anodd iawn i'w ddehongli heb gyd-destun.