Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn disgrifio ffordd y cafodd llawer o'n hadeiladau cyhoeddus ni eu hariannu yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Rydych chi'n cyfeirio at y cynlluniau oedd gan yr ysbyty, ac, yn amlwg, fel y dywedwch chi, mae cynnydd aruthrol wedi bod nawr yng nghost deunyddiau, er enghraifft, ac yn amlwg llafur hefyd. Yn hytrach na bod y Gweinidog yn gwneud datganiad, rwy'n credu y byddai'n well i'r bwrdd iechyd ymateb. Efallai y gallech chi ysgrifennu atyn nhw a gweld beth yw eu hymateb.