Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 11 Hydref 2022.
Gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod i'n ystyried busnes y Llywodraeth yn fanwl iawn bob wythnos, ac yn cael sgyrsiau gyda fy nghydweithwyr gweinidogol i wneud yn siŵr bod prynhawn llawn o fusnes.
O ran deintyddiaeth, yn sicr gwnaf edrych ar yr hyn y dywedais i wrthych chi ym mis Mawrth, ac os nad oes datganiad wedi bod, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig o leiaf cyn hanner tymor.