Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Hydref 2022.
Pam nad ydym ni'n fodlon newid y system bleidleisio? Mae popeth arall yn y byd yn newid. Ond mae Mr Ludiad draw fan hyn yn dymuno i ni aros yn oes yr injan stêm o ran pleidleisio, yn hytrach na mynd gyda'r oes ddigidol. Ond prin ei bod hi'n syndod, serch hynny, i glywed Darren Millar yn gwrthwynebu newid. Wrth gwrs, fe wrthwynebodd ei blaid bob diwygiad ers Deddf Diwygio 1832, oni wnaethon nhw? Felly, mae hynny yn ôl y disgwyl o leiaf. Ei ymosodiad ar y cynlluniau treialu—. Wel, dim ond cynlluniau treialu yw'r rhain, onid e? Profion ydyn nhw. Pethau i ddysgu oddi wrthyn nhw, ac fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw gynllun treialu sydd â nod o geisio annog mwy o bobl i bleidleisio. Mae ef yn sôn am ddryswch. Fe newidiodd ei blaid ef y system bleidleisio, ar y cyd â'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda Deddf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, i system cyntaf i'r felin. Nid oedd unrhyw sôn am ddryswch bryd hynny. Y nhw oedd y rhai a oedd yn dymuno cyflwyno prawf o hunaniaeth gan bleidleisiwr. Ni fu unrhyw sôn am achosi anhrefn bryd hynny.
Rwy'n siŵr, Cwnsler Cyffredinol, eich bod chi wedi aros ar eich traed yn hwyr neithiwr i wrando ar fy ffrind a fy nghyd-Aelod Sioned Williams ar y rhaglen Sharp End. Roedd hi'n dweud, fel gydag ymestyn yr hawliau pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, na chaiff pobl eu grymuso i bleidleisio oni bai eu bod yn cael eu hysbrydoli i bleidleisio, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Roeddwn i'n cytuno gyda Darren ynglŷn â hynny. Mater i bob un ohonom ni yw ysbrydoli, ond mae addysg yn allweddol o ran gwleidyddiaeth. Mae Sioned yn iawn. Addysg wleidyddol—pa swyddogaeth sydd gan addysg wleidyddol yn hyn i gyd?
Fel llawer o bobl, rydym ni'n curo ar ddrysau ar adeg etholiad. Ac mae pobl yn dweud wrthym ni, 'O, wel, dim ond ychydig fisoedd yn ôl y gwnaethon ni symud yma, ac nid ydym ni wedi cofrestru.' Fe fydd hyn yn datrys hynny. Yr hyn na fydd yn ei ddatrys yw rhai wardiau—. A gaf i fynd â chi i rai wardiau yng Nghaerdydd, lle rydych chi'n mynd ar hyd stryd ar ôl stryd, gan fynd heibio tŷ ar ôl tŷ o bobl heb gofrestru? Ni wnaiff hyn ddatrys y broblem honno, ond yr hyn a welwn ni mewn sawl ward yng Nghaerdydd, ac ym Mhontypridd rwy'n siŵr, lle mae'r cyfraddau pleidleisio ar hyn o bryd yn yr ugeiniau isel, yw y bydd y canran pleidleisio yn plymio ymhellach eto, ond o leiaf fe fyddai hynny'n adlewyrchiad cywir o niferoedd pobl sy'n pleidleisio.
Fel roeddech chi'n dweud, nid peth newydd mo cofrestru awtomatig. Roeddwn i, yn fy neuadd breswyl, wedi cofrestru yn awtomatig i bleidleisio yn Lloegr, yn eu hetholiadau lleol nhw, ac fe allaf i ddweud wrthych chi mai dyna'r unig etholiad erioed i mi beidio â phleidleisio i Blaid Cymru. [Chwerthin.] Nid wyf i am ddweud wrthych chi i bwy y gwnes i bleidleisio, ond nid yw'r blaid honno erioed wedi bod â chynrychiolaeth yn y fan hon, ac mae'r blaid honno'n cefnogi annibyniaeth i Gymru, felly fe'ch gadawaf chi i ddyfalu. Ond mae hi'n bwysig bod pobl yn gwybod eu bod nhw wedi cofrestru. Sut ydych chi am ddweud wrth bobl eu bod nhw wedi cael eu cofrestru? Sut fydd yr hysbyseb yn cael ei thalu amdani? Ai'r awdurdodau lleol sydd am fod yn gyfrifol, unwaith eto, i dalu'r bil hwnnw?
Pryd ac ymhle y bydd y cynlluniau treialu yma'n digwydd, oherwydd dim ond ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau Cymru y gallwch chi eu cael nhw? Wel, mae'r rhain yn bell iawn i ffwrdd, felly pryd fyddan nhw'n digwydd a pha mor gyflym fydd y gwerthusiad yn cael ei gwblhau wedyn?
Rwy'n siomedig—. Ac rwyf i am atgoffa Darren Millar o eiriau Iesu Grist yn yr efengyl yn ôl Mathew: 'Bûm yng ngharchar, ac ymwelsoch â mi, daethoch ataf.' Wel, fe hoffwn i gofio am y carcharorion heddiw. Nid yw'r ffaith nad yw Darren Millar yn dymuno cynnwys carcharorion—. Fe ddylai pawb sy'n byw yn y wlad hon fod yn rhan o'r gymdeithas ddinesig, ac fe ddylech chi wrando, dylech wrando ar eiriau eich gwaredwr, Iesu Grist, yn y Testament Newydd, Darren Millar. Nawr, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i roi hyn yn ôl ar yr agenda—rhywbeth y mae fy mhlaid a minnau'n teimlo yn gryf iawn ynglŷn ag ef.
Ychydig o bethau technegol i gloi: beth yw'r bwrdd rheoli etholiadol hwn yr ydych chi'n sôn amdano? A yw'r un peth â'r bwrdd cydlynu etholiadol y mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn holi yn ei gylch? Fe nodais i, reit ar ddiwedd eich datganiad, eich bod chi wedi sôn am uno'r panel taliadau annibynnol a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru. Nawr, rydych chi'n gwybod bod y panel taliadau annibynnol yn ymdrin â chyfraddau tâl aelodau etholedig y cynghorau, ond ag awdurdodau'r parciau cenedlaethol a'r awdurdodau tân ac achub hefyd. Sut mae hynny'n cysylltu â'r comisiwn ffiniau, a sut fydd hynny'n effeithio ar unrhyw adolygiadau o ffiniau pan gaiff ei roi gerbron yma? Diolch yn fawr. Ac o fewn pum munud. [Chwerthin.]