Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr sydd mewn rhannau o Gymru wedi ysgogi teimladau cryf ers rhai blynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, mae'n ddealladwy bod yna deimlad o anghyfiawnder fod pobl yn gallu cael eu prisio mas o'r farchnad dai leol gan rai sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr.
Mae Cymru wedi bod yn genedl groesawgar erioed, ac rŷn ni eisiau i hynny fod yn wir bob amser. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ond mae gormod o lety gwyliau a gormod o ail gartrefi sy'n wag am ran helaeth o'r flwyddyn yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd ardaloedd a'r ymdeimlad o gymuned. Yn aml, mae'r ail gartrefi hyn mewn cymunedau Cymraeg ac maen nhw'n gallu lleihau ar y cyfleoedd sydd gennym ni i ddefnyddio'n hiaith yn y cymunedau hynny. Hefyd, os nad yw pobl ifanc yn gallu fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg, mae hyn hefyd yn gallu bod yn niweidiol i'r Gymraeg.
Fel arfer, mae'n haws disgrifio'r broblem a galw am weithredu nag yw hi i'w datrys. Ond rŷn ni'n torri tir newydd yma yng Nghymru yn y datrysiadau rŷn ni'n eu cyflwyno i wynebu'r heriau hyn, ac mae sawl un tu hwnt i Gymru wedi dangos diddordeb yn yr hyn rŷn ni'n ei wneud. Rŷn ni'n arloesi. Rŷn ni nawr yn cynnwys ystyriaethau ieithyddol ym materion fforddiadwyedd ac ail gartrefi. A dyna beth dwi'n mynd i siarad amdano fe heddiw.
Dwi am i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' fod yn ganolog i'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau lawer sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Cawsom 800 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun—y nifer uchaf o ymatebion rŷn ni wedi'u derbyn ar fater sy'n ymwneud â'r Gymraeg, sy'n dangos y teimladau cryf a'r awydd i weithredu. Mae pobl Cymru am warchod a diogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol, fel fi hefyd. Felly, diolch o galon i bawb a wnaeth ateb.
Prif nod y cynllun yw helpu cymunedau i gynllunio drostyn nhw eu hunain, i ddelio ag heriau penodol o fewn eu hardaloedd, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth ac egni lleol. Nid cynllun tai yn unig yw hwn. Mae'n tynnu ynghyd, er enghraifft, y gwaith mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi bod yn ei wneud ym maes tai, ynghyd â gwaith y Llywodraeth ar yr economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol. Mae'n enghraifft go iawn, Dirprwy Lywydd, o brif ffrydio'r iaith i bolisïau eraill.
Rwy'n cyhoeddi heddiw hefyd becyn o bron i £500,000 sydd ar gael i wireddu rhai o amcanion y cynllun. I roi blas i chi o'r amcanion hyn: rŷn ni am greu mwy o fentrau cydweithredol, wedi eu harwain gan y gymuned. Roedd tipyn o gefnogaeth i'r syniad yma yn ymatebion yr ymgynghoriad. Bydd rhain yn llefydd i bobl weithio a defnyddio'u Cymraeg yn ddirwystr—gofodau uniaith, hynny yw.
Rŷn ni hefyd am weithio gyda'r rheini sydd â rôl allweddol yn y farchnad dai—arwerthwyr tai, cyfreithwyr, cwmnïau morgeisi ac awdurdodau lleol. Mae cyfle gennym ni i weithio gyda'r arbenigedd lleol yma er mwyn i ni rannu gwybodaeth am gymorth i helpu pobl leol i brynu neu i rentu tai yn fforddiadwy.
Byddwn ni hefyd yn creu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol. Pobl leol fydd y rhain sy'n adnabod eu cymunedau'n dda, yn esbonio'n diwylliant a sefyllfa'n hiaith er mwyn helpu i integreiddio pobl newydd iddyn nhw. Mae pobl yn fwy parod i berthyn i gymuned pan fyddan nhw'n deall y gymuned maen nhw'n byw ynddi.
Rŷn ni'n clywed yn aml am dai yn cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu'n cael eu gwerthu'n sydyn i brynwyr gyda digon o fodd i'w prynu nhw, yn aml heb yr angen am forgais. Rŷn ni'n clywed hefyd am werthwyr yn derbyn prisiau is gan bobl leol, pobl yn rhoi amser digonol i bobl leol drefnu benthyciad. Mae enghreifftiau o werthwyr yn helpu prynwyr, a rhaid cofio nad arwerthwyr tai sy'n penderfynu pwy sy'n prynu eiddo—mae'r penderfyniad terfynol yn nwylo'r gwerthwr. Felly, byddwn ni'n sefydlu cynllun cyfle teg, i godi ymwybyddiaeth ymysg gwerthwyr neu ddarpar werthwyr am y dewisiadau sydd ganddyn nhw i gefnogi pobl sydd am aros neu ddychwelyd i'r cymunedau y cawsant eu magu ynddynt. Bydd hwn yn gynllun gwirfoddol er mwyn amlygu beth y gallwn ni ei wneud i helpu pobl leol i gael tŷ sy'n fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu.
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe wnes i lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd y comisiwn yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg. Drwy ddefnyddio gwybodaeth arbenigwyr yn y maes, bydd y comisiwn yn llunio adroddiad ymhen dwy flynedd a fydd yn gwneud argymhellion polisi. Mae'r comisiwn eisoes wedi cyfarfod, a dwi'n disgwyl y bydd ei ganlyniadau yn heriol i nifer, ond mae'n hanfodol ein bod ni'n gwreiddio ein polisïau ar sail tystiolaeth a realiti.
Rhan bwysig o'r cynllun fydd amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg, sydd hefyd wedi ei gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu. Cawsom ni ymateb cryf ac adeiladol i'r cwestiwn yma yn yr ymgynghoriad. Rŷn ni'n gwybod bod enwau tai, busnesau, llynnoedd a mynyddoedd yn effeithio ar naws ardal, a bod pobl yn poeni am hyn. Dyna pam y gwnaethom ni ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i warchod enwau lleoedd Cymraeg, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu mwynhau. Rŷn ni angen datblygu ein sail tystiolaeth er mwyn gweithredu, nid yn unig am nifer yr enwau sy'n newid, ond am sut a ble y mae hynny'n digwydd. Felly rŷn ni wrthi'n comisiynu ymchwil trylwyr i'n helpu ni yn hynny o beth. Byddwn ni hefyd yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i gael gweld beth yn union sy'n mynd ymlaen, a bydd angen gwahanol atebion er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae iechyd economaidd ein cymunedau Cymraeg yn bwysig i ffyniant yr iaith. Bydd Aelodau wedi gweld o ddatganiadau yn gynharach yr wythnos hon am gyllid ychwanegol a fydd yn adeiladu ar waith rhaglen flaenorol Arfor. Bydd hyn yn helpu busnesau ac yn creu cyfleoedd gwaith o fewn rhai o'n cymunedau Cymraeg, sy'n ychwanegu gwerth i'n rhaglenni prif ffrwd ac i 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' hefyd wrth gwrs.
Os ydym ni am i bobl leol gael cyfle gwirioneddol i fyw yn ein cymunedau Cymraeg, i gynnal bywiogrwydd yr iaith fel rhan naturiol o fywyd cymdeithasol ac economaidd bob dydd, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau ac ar draws ein gwlad, rhaid i ni fod yn feiddgar wrth weithredu. Mae Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio â Phlaid Cymru, wedi gwneud hynny. Cyhoeddi 'Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg' heddiw yw'r cam diweddaraf ar y daith, ochr yn ochr ag ystod o fesurau eraill rŷn ni wedi eu cymryd i wireddu realiti ymarferol yr hawl i fyw adref.