4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 11 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:57, 11 Hydref 2022

Cwmni o'r enw Coastal Holidays a oedd wedi postio'r llythyr hwnnw—nid cwmni twristiaeth leol, mae'n rhaid dweud, ond cwmni sydd o Warwick, yn ôl eu gwefan nhw. Yn bwysig iawn, cwmni ydy o sydd yn trio mynd ati'n bwrpasol i dynnu tai allan o'r stoc dai lleol, yn amddifadu pobl o fewn y gymuned rhag y gallu i brynu'r tai yna, yn gwthio prisiau i fyny. 

Mae'r Gweinidog heddiw wedi sôn am yr arfer da mae o eisiau ei ddatblygu. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y llythyr yma yn arfer gwael—dydy o ddim yn unigryw, wrth gwrs—a'i fod o'n brawf pam bod angen y mesurau o'r fath sydd wedi cael eu crybwyll heddiw ac sy'n deillio allan o'r cytundeb cydweithio efo Plaid Cymru, a pham bod angen gweithredu'n gadarn, yn cynnwys deddfwriaeth, er mwyn gwarchod y farchnad dai, a thrwy hynny warchod y Gymraeg?