Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 11 Hydref 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma ar egwyddorion cyffredinol y Bil ac i rannu barn y pwyllgor newid hinsawdd ynglŷn â'r Bil gydag Aelodau'r Senedd yma. Cyn i fi droi at gynnwys y Bil, mi fyddwn i'n hoffi siarad yn fyr am sut rydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn. Mi fydd Aelodau’n ymwybodol, wrth gwrs, na chafwyd unrhyw waith Cyfnod 1 gan bwyllgor—unrhyw bwyllgor—ar y Bil yma sydd ger ein bron ni heddiw. Dair wythnos yn ôl yn unig y cafodd y Bil ei gyflwyno yn y Senedd yn ffurfiol, y Bil terfynol. Ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i gyd wedi gwneud gwaith ar y Bil yma. Dyw hi ddim yn sefyllfa rydyn ni'n hapus iawn â hi, ond o dan yr amgylchiadau, dwi'n credu ein bod ni wedi gwneud gwaith teilwng rhwng y tri phwyllgor o ran craffu ar y Bil. Os byddem ni wedi dewis peidio â gwneud y gwaith yma, yna fyddai yna ddim unrhyw fath o ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ar ddarpariaethau manwl y Bil. A dim cyfle i'r rhai y mae’r cynigion yn effeithio arnyn nhw i gael dweud eu dweud. Roeddem ni felly'n credu ei bod hi'n bwysig inni gynnal y gwaith y gwnaethon ni ei wneud er mwyn osgoi diffyg llwyr o ran gwaith craffu. Ond—a dwi'n dweud hwn yn y modd cryfaf posib—ddylai ein gwaith ni a'r hyn dwi'n cyfeirio ato yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma heddiw ddim cael ei ystyried fel ffordd ddigonol o gymryd lle gwaith craffu Cyfnod 1 go iawn gan bwyllgor. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall hynny.
Gan droi at y Bil ei hun, felly, er bod cefnogaeth helaeth ymhlith rhanddeiliaid i’r Bil, mae'n rhaid dweud nad oedd neb yn twyllo'u hunain ynghylch yr effaith y buasai'r Bil yma'n ei gael ar yr amgylchedd. Fe ddywedodd y rhan fwyaf o bobl wrthym ni y bydd y Bil ar ei ben ei hun dim ond yn cael effaith gyfyngedig ar y llygredd plastig a’r sbwriel rydym yn ei weld ym mhob man o’n cwmpas, ond, wrth gwrs, ei fod yn y man lleiaf yn fan cychwyn. Ac mae'n gam cyntaf da i'r cyfeiriad iawn.
Fe gafwyd peth trafodaeth yn y pwyllgor am y diffiniadau y mae’r Bil yn eu defnyddio. Er enghraifft, roedd rhai cyfranwyr yn cwestiynu a oedd bylchau yn y diffiniad penodol o 'ddefnydd sengl' a beth mae hynny'n ei feddwl. Ond, y consensws oedd y bydd wastad peth amwysedd ynghylch diffiniadau. Roedd rhanddeiliaid yn poeni llai am berffeithrwydd na’r angen i sicrhau bod diffiniadau o leiaf yn cyd-fynd â deddfwriaeth arall. Rŷn ni felly wedi argymell y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau ar y diffiniadau.
Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu am un peth sydd wedi cael ei adael allan. Yr hyn y mae'r Bil yn ei wneud, wrth gwrs, yw atal cyflenwi eitemau sydd wedi’u gwahardd, dyw e ddim yn atal gweithgynhyrchu’r eitemau hynny. Yn yr Alban, wrth gwrs, mae gweithgynhyrchu a chyflenwi wedi’u gwahardd. O dan y Bil fel y’i drafftiwyd, er efallai nad oes llawer ohonyn nhw, fe allai gweithgynhyrchwyr yng Nghymru fod yn cludo plastigau untro i rannau eraill o’r byd. Ac ar yr wyneb, felly, mae’n anodd gweld sut mae hyn yn cyd-fynd â’n huchelgais ni i fod yn wlad gyfrifol ar lefel fyd-eang. Nawr, mi ddywedodd y Gweinidog wrth gychwyn ei chyfraniad ein bod ni'n cychwyn ar daith fyd-eang pan fo’n dod i daclo plastig. Wel, mi fyddwn i’n ddiolchgar pe bai’r Gweinidog efallai, wrth ymateb i’r ddadl, yn rhoi sylw penodol i’r pwynt yna, a byddwn i’n awyddus i’w glywed.
Rhan ganolog y Bil, wrth gwrs, yw’r rhestr o eitemau sydd yn mynd i gael eu gwahardd, ynghyd ag elfennau o’r rheini, wedyn, lle mae yna eithriadau. Nawr, yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid yn fodlon ar yr eitemau ar y rhestr, ond y neges y gwnaethon ni ei chlywed yn glir oedd mai man cychwyn ddylai hyn fod. Dwi’n gwybod bod y Gweinidog eisoes wedi dweud ei bod hi’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaharddiad ar weips gwlyb â phlastig ynddyn nhw cyn gynted ag y gall hi wneud hynny, ac mae’r pwyllgor yn eich cefnogi chi yn hyn o beth. Mi ddywedodd rhanddeiliaid wrthon ni y dylai’r eithriadau i’r gwaharddiadau fod yn fach iawn, ond fe wnaeth Anabledd Cymru roi digon inni gnoi cil amdano fe ynghylch y canlyniadau anfwriadol a allai godi yn sgil mesurau felly yn y Bil. Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau bod gan grwpiau cynrychioliadol fel Anabledd Cymru ac eraill ran flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu unrhyw gynigion i ychwanegu at y rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd o'r cychwyn, a dwi’n falch bod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd hynny yn y sylwadau y gwnaeth hi wrth agor y ddadl.
Nawr, mae disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan sylweddol o ran rhoi’r cynigion hyn ar waith, ac un o’r pryderon mwyaf y gwnaethon ni eu clywed oedd, wrth gwrs, ynghylch capasiti awdurdodau lleol i wneud y gwaith hwn. Mae’r Gweinidog wedi dweud ei bod hi’n disgwyl i awdurdodau lleol addysgu cyflenwyr cyn i’r gwaharddiad ddod i rym, wel, mae gen i amheuaeth ynghylch a yw hyn yn realistig, yn seiliedig ar yr hyn rŷn ni wedi ei glywed. Fe ddywedwyd wrthym ni—ac rŷn ni i gyd yn gwybod hyn, wrth gwrs—fod toriadau difrifol wedi bod ar waith cynghori rhagweithiol. Roedd amheuon hefyd bod gan awdurdodau lleol y capasiti i orfodi'r gwaharddiad yn effeithiol. Awgrymwyd y gallai rhai awdurdodau lleol efallai ddewis peidio â chymryd unrhyw gamau gorfodi oherwydd diffyg capasiti. Dwi’n ddiolchgar felly bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei bod hi yn trafod y mater hyn gydag awdurdodau lleol, ond rŷn ni yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cyllid sydd ei angen ar awdurdodau lleol i allu chwarae eu rhan i sicrhau bod y gwaharddiad yn llwyddiant, a dwi’n edrych ymlaen at dderbyn yr ohebiaeth gan y Gweinidog pan y bydd hi’n ysgrifennu atom ni ar hyn.
Yn olaf, felly, ac i gloi, mae'r pwyllgor yn falch o weld cynnydd yn y maes yma, ond mae'n amlwg, er bod rhanddeiliaid yn cefnogi'r Bil, nad yw'r Bil yn creu rhyw gyffro mawr. Wedi’r cyfan, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban eisoes wedi deddfu i wahardd plastigau untro penodol, felly ymgais i ddal i fyny â nhw yw hyn. Mae’n wir bod hyn yn golygu y gallwn ni osgoi’r camgymeriadau y mae eraill wedi’u gwneud, ond am faint yn hirach y gallwn ni barhau i ddweud ein bod ni yn arweinwyr yn y maes polisi amgylcheddol, pan mai ni, wrth gwrs, yn y cyd-destun yma, yw’r olaf i weithredu?