Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 11 Hydref 2022.
Roeddwn i eisiau, yn benodol iawn, rhoi sylw i’r pwynt gan Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder ar yr astudiaeth achos maen nhw wedi’i gynnwys, fodd bynnag. Yn barchus iawn, Huw, mae'n ddrwg iawn gen i ddweud nad ydyn ni'n cytuno bod astudiaeth achos y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder yn gynrychiolaeth gywir o'r safbwynt. Ein safbwynt yw bod darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd, yn gwbl effeithiol ac yn orfodadwy. Felly, mae hynny'n cynnwys y darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i gyflenwi cynnyrch plastig untro, ocso-bioddiraddadwy gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru, ac mae'n cynnwys cyflenwi'r eitemau hynny o'r tu allan i Gymru, gan gynnwys o wledydd eraill y DU. Felly, mae'r Cwnsler Cyffredinol, sy'n eistedd wrth fy ochr heddiw, wedi nodi dro ar ôl tro mai ein safbwynt ni yw na all UKIMA, fel rydyn ni'n ei alw, weithredu i faterion wedi'u cadw'n ôl sy'n amlwg o fewn cymhwysedd y Senedd, ac nad yw’n gwneud hynny. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion nad ydynt wedi’u cadw yn ôl ac mewn perthynas â Chymru. Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Llywydd wedi dweud bod ei ddarpariaethau o fewn cymhwysedd, ac felly rydym ni o'r farn eu bod yn gwbl effeithiol ac yn orfodadwy, ac nid yw egwyddorion mynediad y farchnad yn UKIMA yn syml yn berthnasol iddynt. Felly, roeddwn i eisiau gwneud hynny'n wirioneddol blaen heddiw.
Fe wnaf i ychydig o bwyntiau eraill hefyd. Rwy'n croesawu cyfraniadau pob un o'r Aelodau yn fawr ynghylch mynd ymhellach a chyflymach ar wahanol gynhyrchion. Fel y dywedais i yn y pwyllgor, cawsom dros 60 o awgrymiadau yn ein hymateb. Hynny yw, ymateb sydd wedi'i gyhoeddi; gallwch edrych arno ar y wefan. Gallwch weld nifer yr eitemau a awgrymodd pobl. Mae pawb wedi sôn amdanyn nhw eto yma heddiw. Mae eraill hefyd. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn trafod nifer o gynhyrchion yn y gwasanaeth iechyd gyda'r Gweinidog iechyd sydd bendant angen i ni edrych arnynt yn fanylach.
Ac ar y mater cadachau gwlyb, rydyn ni, wrth gwrs, wedi gweithio gyda'r gwneuthurwr yn y Fflint ac mewn mannau eraill—tair ffatri yng Nghymru, mewn gwirionedd—ond fel y dywedais i yn y pwyllgor, ac rwy'n atgoffa Janet, un o'r materion mawr i ni yw nad oes rhaid i chi labelu'r cynnyrch ar hyn o bryd i ddweud bod ganddo blastig ynddo. Felly, yn amlwg, mae'n llawer anoddach gorfodi os nad ydych chi'n gallu dweud, yn gywir, beth sydd ynddo. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y DU yn newid y drefn labelu, fel os oes gennych chi gynnyrch sy'n edrych fel y dylai allu gael ei gompostio neu fod yn fioddiraddadwy, ond mewn gwirionedd mae ganddo blastig ynddo, y dylid nodi hynny'n glir iawn ar y label. Mae gennym broblem gyda chadachau gwlyb, yn sicr, ond mae gennym ni broblem hefyd gyda rhai bagiau te gyda phlastig ynddynt, ac yn y blaen. Felly, mae angen labelu cynhyrchion sy'n cynnwys plastig, sy'n golygu nad ydynt yn fioddiraddadwy neu’n gallu cael eu compostio mwyach, oherwydd fel arall beth ydym ni i'w wneud â nhw? Allaf i ddim pwysleisio hynny ddigon, a byddaf i'n codi hynny ym mhob grŵp rhyng-weinidogol rydw i ynddo, a gobeithio, Janet, y byddwch chi'n gallu gwneud hynny gyda'r Llywodraeth yno yn San Steffan. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgorau yn ei wneud hefyd.
Ond, yn y cyfamser, byddwn ni'n gweithio gyda'n gweithgynhyrchwyr yma yng Nghymru yn ofalus iawn i wneud yn siŵr eu bod nhw eu hunain yn tynnu'r plastig o'u cynnyrch. Hyd yn oed os nad ydyn ni'n eu gwahardd, rydyn ni eisiau iddyn nhw gael eu tynnu o'r cynhyrchion. Felly, roeddwn i eisiau gwneud y sefyllfa yna'n blaen iawn. Fe fyddwn i'n hoffi'n fawr pe byddem wedi cynnwys cadachau gwlyb, ond mae wedi bod yn amhosib ar y pwynt gorfodi i wneud hynny. Er hynny, rwy’n falch iawn o ddweud, fod y Bil, wrth gwrs, yn caniatáu i ni ychwanegu cynhyrchion wrth i ni wneud yr ymchwil ac wrth i ni weithio gyda'n busnesau. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at allu gwneud hynny. Mae'n fwriadol yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion, gan dybio bod y Senedd yn ei phasio yn y ffurf hon yn y pen draw, fel bod yn rhaid i ni adrodd yn ôl i'r Senedd ar p’un a ydym ni'n cynnwys cynhyrchion ychwanegol ai peidio. Felly, rwy'n credu dwyn i gyfrif yn y ffordd yna—'Pam nad ydych chi'n mynd ymhellach?'—yn rhywbeth y dylai'r Senedd mewn gwirionedd, gobeithio, ei gymeradwyo, wrth i ni fynd â'r Bil drwy ei wahanol gyfnodau.
Mae'r Bil yn ffitio i'n strategaethau cynhwysfawr, ehangach sydd â'r nod o ddiogelu a gwella ein hamgylchedd. Felly, mewn ateb i Jane ac ambell un o'r lleill rwy’n meddwl, yn amlwg, mae hyn yn rhan o gyfres o fesurau, felly rydyn ni'n bwrw ymlaen â chyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, fel mae'n digwydd. Mae yna hefyd gynllun cyfrifoldeb cynhyrchydd newydd, estynedig yn dod. Felly, byddwn yn codi'r pwynt gweithgynhyrchu yn y gyfres ehangach o fesurau. Felly, dydy'r ffaith nad yw yn y Bil hwn ddim yn golygu nad ydym yn ei wneud, a bydd y Senedd yn cael cyfle i gael golwg ar hynny, felly rwy'n derbyn y pwynt yn fawr. Rydyn ni'n glir iawn ar ein cyfrifoldebau byd-eang, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud y pethau hynny. Felly, dim ond i atgoffa'r Aelodau, dim ond am nad yw i mewn yma, nid yw'n golygu nad yw'n dod neu nad yw'n cael ei gynnwys yn y gyfres o fesurau.
Mae'n cyfrannu at ein rhaglen lywodraethu, wrth gwrs, ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn, a byddaf yn ailadrodd o'r dechrau, fy mod i'n gallu derbyn bron pob un o'r argymhellion gan y pwyllgorau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am faint o waith rydych chi wedi'i wneud mewn amser byr iawn. Yn benodol, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, byddwn yn cyflwyno gwelliannau i osod y canllawiau fel dyletswydd, felly byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â hynny, ac yn sicr byddwn yn mynd i'r afael ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid, yr ydym yn derbyn pob un ohonynt—nid oes un o'r rheini wedi cael eu gwrthod.
Ond, Llywydd, yn y diwedd, rydw i wir yn credu ein bod ni'n gwneud rhywbeth eithaf unigryw yma. Rydym ni y tu ôl i wledydd eraill y DU, ond mae hyn yn mynd ymhellach. Weithiau gallwch chi neidio, a gobeithio y bydd y Senedd yn cymryd y cyfle i neidio heddiw. Mae hyn yn rhywbeth mae'n ymddangos bod gennym ni ewyllys cyfunol i'w wneud. Mae'n rhywbeth rwy'n credu bod yn rhaid i ni ei gyflawni. Mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu ein cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol rhag effaith y plastig hwn. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau'n cymeradwyo'r ddau gynnig heddiw. Edrychaf ymlaen at drafodaeth bellach yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2, ac rwy'n gofyn i Aelodau heddiw gymeradwyo'r cynnig a chytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Diolch.