Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 18 Hydref 2022.
Llywydd, rwy'n deall y pwysau sydd ar y Blaid Geidwadol. Rwy'n deall pa mor anodd yw hi i arweinydd yr wrthblaid ddod yma a gofyn cwestiynau heddiw. Ond peidiwch â gadael iddo gredu, drwy weiddi arnaf i, y bydd yn perswadio unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon fod ei gyfrifoldeb—dydw i ddim wedi clywed yr un gair ganddo erioed yn dweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei Lywodraeth ef. Beth am glywed hynny ganddo y tro nesaf—