Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Hydref 2022.
A gawn ni—? [Torri ar draws.] A gawn ni—? A gawn ni oedi am eiliad? Rwy'n deall bod y dadleuon a'r teimladau'n gryf iawn ynghylch y materion hyn a hynny o amrywiaeth o safbwyntiau, rwy'n deall pam y mae rhywfaint o weiddi yn digwydd, ond nid wyf am ganiatáu i neb wneud ystumiau a phwyntio at bobl eraill mewn dicter. A gawn ni gymryd eiliad i dawelu? Rwy'n gobeithio y bydd Adam Price yn cyfrannu at hynny pan fyddaf yn ei alw i ofyn ei gwestiynau.