Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 18 Hydref 2022.
Dyna yn union wnaeth y Blaid Lafur yn San Steffan, onid e? Beth allai treth gydsefyll ei wneud? Gallai ein helpu ni i fodloni gofynion rhesymol gweithwyr y sector cyhoeddus i wella cynnig cyflog Llywodraeth Cymru, y mae hyd yn oed undeb sy'n gysylltiedig â Llafur wedi ei alw'n ddilornus—y gweithwyr gwyrthiol, Prif Weinidog, yr ydych newydd gyfeirio atyn nhw yn y GIG. Fe allai ein helpu ni i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau lleol yr ydym wedi dibynnu cymaint arnyn nhw yn ystod y pandemig. Gallai ein helpu ni i ehangu'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim yn ysgolion uwchradd. Gallai ein helpu ni i roi'r cymhorthdal i drafnidiaeth gyhoeddus y mae hyd yn oed y mwyafrif Llafur ar y pwyllgor newid hinsawdd wedi'i gynnig. Gallai wneud y pethau hyn mewn gwahanol gyfrannau ac i wahanol raddau, yn dibynnu ar uchelgais eich Llywodraeth. Ond dywedaf hyn wrthych chi eto, Prif Weinidog—Prif Weinidog sosialaidd: onid yw'r egwyddor hon o gydsefyll yn rhywbeth y dylai eich Llywodraeth ei chofleidio?