Y Marchnadoedd Ariannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 18 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joel James Joel James Conservative 1:41, 18 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar gyllid llawer o gronfeydd pensiwn ac yn y pen draw mae wedi arwain at y defnydd gor-ddibynnol o fuddsoddi ar sail rhwymedigaeth gan gynlluniau pensiwn mewn anobaith yn ceisio gwneud iawn am y diffygion y maen nhw wedi'u dioddef yn barhaus ers hynny. Mewn ymgais wyllt i godi refeniw, mae gwaddol ariannol Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi gweld cronfeydd pensiwn yn ceisio benthyca gyda mwy a mwy o risg—[Torri ar draws.]