Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch Prif Weinidog, am y ffigurau yna. Prif Weinidog, yn gywilyddus, rydym yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill sy'n cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn i bobl 50 oed a hŷn. Mae hwn yn warth cenedlaethol. Mae pobl sy'n byw yn Yr Alban ac yn Lloegr yn cael cynnig gwasanaeth sgrinio canser y coluddyn, ac wedi cael hynny ers blynyddoedd. Mae'n gwbl anghredadwy nad ydych chi wedi ymestyn y rhaglen sgrinio i'r grŵp oedran hwnnw. Beth yw'r her yng Nghymru sy'n ymddangos yn benodol i Gymru, ac a fyddwch chi'n ymrwymo i gyflwyno estyniad i'r gwasanaethau i bobl dros 50 oed? Diolch.