Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 18 Hydref 2022.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, ac rwyf eisiau ei ailadrodd eto y prynhawn 'ma, fel y gwnes i wythnos diwethaf, oherwydd mae hwn yn gyfnod hollol ddifrifol ym mywydau dinasyddion yng Nghymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru eisoes yn werth, o ran pŵer prynu, £600 miliwn yn llai nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd adeg yr adolygiad gwariant cynhwysfawr, ac mae'r Canghellor wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o gwbl o wneud iawn am yr erydiad hwnnw yn y cyllidebau sydd ar gael i warchod dinasyddion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A nawr rydym ni'n gwybod bod toriadau ar ben hynny ar y ffordd.
Er y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob capasiti sydd gennym ni, pob punt yr ydym yn gallu ei defnyddio, pob partneriaeth yr ydym yn gallu dibynnu arni, i wneud yr hyn y gallwn ni i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag effaith y toriadau hynny; bydd terfyn, yn syml, na allwn ni fynd y tu hwnt iddo. A bydd pobl yn gweld yn uniongyrchol ac yn anochel, nid yn unig oherwydd bod eu morgeisi bellach yn costio llawer iawn mwy, nid yn unig oherwydd y bydd yr amddiffyniad ynni a addawyd yr wythnos diwethaf a oedd i bara am ddwy flynedd bellach i bara am chwe mis yn unig, nid yn unig oherwydd y gallai'r budd-daliadau y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw gael eu torri tra bod bonysau bancwyr heb unrhyw gyfyngiadau, ond fe fyddan nhw'n ei weld hefyd yn y gwasanaethau yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw hyd yma na fydd ar gael yn yr un ffordd, os bydd rhaid i ni dorri ein cyllideb ar y raddfa y mae rhai sylwebyddion yn darogan.
Llywydd, daeth y toriad mwyaf erioed yr oedd yn rhaid i ni ei wneud mewn un flwyddyn pan oedd George Osborne yn Ganghellor y Trysorlys. Bu'n rhaid i ni dorri 3 y cant o'n cyllideb, ac fe wnaethom ni hynny ar ôl 10 mlynedd pryd yr oedd ein cyllideb wedi tyfu bob un flwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, twf mewn termau real, ac yna roedd yn rhaid i ni dorri 3 y cant. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yr wythnos diwethaf, yn dweud y byddai toriad o 15 y cant—15 y cant—mewn gwariant cyhoeddus, a hyn bellach nid ar ôl degawd o dwf, ond ar ôl degawd o gyni hefyd. Ni all neb gymryd arnynt y gall pobl yng Nghymru gael lloches rhag ymosodiad chwyrn hynny, a dyna'r neges y byddaf yn ei chyfleu pryd bynnag y caf y cyfle—fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn ei sgwrs â Phrif Ysgrifennydd diweddaraf y Trysorlys, y chweched un y mae wedi gorfod ymdrin ag ef yn ystod ei chyfnod yn Weinidog cyllid yma yn Llywodraeth Cymru.