Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 18 Hydref 2022.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae gennym raglen sgrinio ardderchog yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn yr oedran ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn. Rwy'n credu'n gryf bod sgrinio yn bwysig, ond mae'n anffodus na all pobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fynd i gael eu sgrinio. A fydd y Prif Weinidog yn cefnogi'r galw i bob un o'r staff a gyflogir yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru gael amser i fynd i apwyntiadau sgrinio?