Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 18 Hydref 2022.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Un o nodau Taith, fel y sonioch chi, yw gwella mynediad i'r cyfleon rhyngwladol a'r symudedd y mae'n eu cynnig i bob dysgwr a myfyriwr, gan gynnwys pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau sydd wedi eu tan-gynrychioli ac o gefndiroedd o amddifadedd ac o dan anfantais. Felly, hoffwn wybod sut mae hyn yn cael ei fesur cyn belled. A yw'r niferoedd hyn yn cael eu monitro a'u mesur o fewn hefyd y gwahanol leoliadau addysg, o ran addysg uwch, addysg bellach, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid? Ac, os felly, beth yw'r gyfradd o fewn y rhai sydd wedi elwa o gyfleon Taith—ydy'r targedau yn cael eu cyrraedd yn hynny o beth?
Wrth greu rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu i Gymru, mae'n wir y cafodd neges gref ei hanfon i bartneriaid rhyngwladol am ein cenedl bod ein sefydliadau addysg a Chymru'n parhau i edrych yn allanol ac yn rhyngwladol, er i Brexit ein tynnu o nifer o'r rhaglenni gwerthfawr a oedd yn ein cynorthwyo i wneud hynny, a'n bod fel cenedl yn deall ac yn arddel gwerth meithrin a chynnal partneriaethau rhyngwladol yn y gymuned addysgiadol ehangach. Mae yna ofid, fodd bynnag, bod costau uwch, yn sgil y sefyllfa economaidd sydd ohoni, a'r diffyg cydbwysedd presennol sydd yn y rhaglen, o ran y gymhareb 10:3 o symudedd mewnol ac allanol, yn mynd i effeithio ar allu sefydliadau i greu partneriaethau hyfyw a chynhyrchiol. Pa ystyriaeth sydd wedi cael ei roi i effaith hyn? Ydy hyn yn rhywbeth hefyd sy'n cael ei fonitro? Oes yna angen i gynyddu'r cyfraddau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau symudedd? Ac, yn benodol, o ran myfyrwyr addysg uwch sy'n hanu o Gymru, ydy'r nifer hwnnw'n cael ei fesur, ac felly, beth yw'r gyfradd?
Yn olaf, ar wefan Taith mae'r datganiad canlynol:
'Mae astudio, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor yn ehangu gorwelion pobl, yn ehangu eu sgiliau, ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.'
A fedrwch chi roi gwybod i ni, Weinidog, sut y mae'r rhaglen yn cynnig cyfleon i ddysgwyr hynod alwedigaethol, sydd ddim yn dilyn cwrs gradd neu mewn ysgol neu goleg? A ydych chi'n fodlon nad oes bwlch o ran darparu cyfleon i bob math o brentisiaid? Diolch.