Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 18 Hydref 2022.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw trwy ddiolch i'r comisiynydd plant newydd a'i thîm am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad cynhwysfawr hwn. Hoffwn hefyd ymuno â chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr i gynnig fy niolch i'r Athro Sally Holland am bopeth a gyflawnodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
Roedd Sally yn hyrwyddwr cadarn dros hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cefais gyfle i ymuno â hi ar ymweliad â Cynon Valley Organic Adventures yn fy etholaeth i y llynedd. Roedd hyn ar gyfer eu cinio mawr yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, ac roedd yn gyfle gwych i Sally siarad â rhai o'r bobl ifanc y bu Janis a'i thîm yn gweithio gyda nhw. Diolch i Sally am gymryd yr amser i ymweld. Rwy'n gwybod bod hwn yn faes y bydd hi'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol ynddo.
Gan droi at yr adroddiad blynyddol, rwyf eisiau canolbwyntio ar ambell faes allweddol—yn gyntaf, yr adrannau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant. Gwyddom i gyd, wrth gwrs, mai dyma un o'r materion mwyaf sylfaenol sy'n wynebu ein cymdeithas. Mae'r data a ddyfynnir yn yr adroddiad ar faint yr her yn ddigon sobreiddiol. Fodd bynnag, mae ffigyrau diweddaraf Canolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol Prifysgol Loughborough yn awgrymu bod nifer y plant mewn tlodi yng Nghymru wedi cynyddu hyd yn oed y tu hwnt i hyn. Rydym hefyd yn gwybod bod hyn yn debygol o fod wedi gwaethygu ymhellach gan y pwysau costau byw digynsail. Yng nghyd-destun y ffeithiau hyn, rwyf wir wedi fy syfrdanu a fy mrawychu gan y diffyg ymgysylltu â'r comisiynydd plant o Lywodraeth y DU. Mae'r adroddiad yn nodi sawl achlysur lle gwrthododd aelodau Cabinet y DU gyfarfod â'r comisiynydd plant, neu hyd yn oed ateb gohebiaeth. Gan fod un o'r rhai hynny a fethodd ag ymateb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ar y pryd, yn Ddirprwy Brif Weinidog ar hyn o bryd, nid yw'n argoeli'n dda i weinyddiaeth Truss yn yr her allweddol o fynd i'r afael â thlodi plant.
Rwy'n nodi, mewn cyferbyniad, weithredoedd Llywodraeth Cymru, y mae'r comisiynydd plant wedi eu croesawu. Mae polisïau fel cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol, darparu brecwast ysgol am ddim, cynnig gofal plant estynedig, Dechrau'n Deg a grant datblygu disgyblion gwell i helpu gyda chost y diwrnod ysgol i gyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fy ymgysylltiad â'r prosiect yn fy etholaeth i, rwyf hefyd eisiau sôn am y clybiau bwyd a hwyl sy'n darparu buddion o'r fath i'r teuluoedd hynny sy'n gymwys i gymryd rhan. Mae'r gweithredoedd hyn a mwy yn dangos ymrwymiad Gweinidogion Cymru i ddileu tlodi plant. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo â sylwadau'r comisiynydd ynghylch y cynllun gweithredu tlodi plant. Os caiff ei dderbyn, gallai hynny arwain at ddarn o waith gwirioneddol gryf sy'n sicrhau pwyslais manwl di-baid gan bob un ohonom ni ar roi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn yng Nghymru.
Rydw i hefyd yn cydymdeimlo ag argymhelliad y comisiynydd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhaliais ddigwyddiad ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru a'r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yma yn y Senedd. Roedd hwn i nodi lansiad y canllaw byr 'Taclo Tlodi Plant gyda'n Gilydd' i ysgolion. Roedd cryn dipyn o blant a phobl ifanc o ysgolion Cymru yn bresennol, a'r peth mawr yr oedden nhw'n gofyn amdano oedd y dylen nhw allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn awyddus iawn i newid arferion ac annog mwy o ddefnydd o fysiau a threnau. Rwy'n gwerthfawrogi bod arian yn dynn, ond gallai bodloni'r argymhelliad hwn, hyd yn oed o ran y cynllun treialu y gofynnwyd amdano, fynd ymhell i annog arferion gydol oes rhagorol o ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn olaf, yr adran ynghylch iechyd meddwl ysgol gyfan a chymorth lles. Fel cyn-athrawes, fel mam i ferch yn ei harddegau, ac o sach bost fy etholaeth, rwy'n gwybod bod y gwaith hwn yn gwbl angenrheidiol. Mae'r comisiynydd yn canmol yn briodol yr ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud—mae hynny o ran y dull gweithredu ei hun a darparu cyllid fel y gall gael ei weithredu'n iawn. Pan fydd ein plant a'n pobl ifanc o dan y fath bwysau, dylem ni gynnig dim llai iddyn nhw. Edrychaf ymlaen at gyflwyno hyn yn gyflym ac yn effeithiol ledled Cymru ar frys. Diolch, Dirprwy Lywydd.