Tlodi Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 25 Hydref 2022

Llywydd, diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Rydyn ni yng nghanol argyfwng tlodi, ac yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant. Eleni, drwy raglenni sy’n amddiffyn cartrefi sydd dan anfantais, a chynlluniau sy’n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl, rydyn ni wedi darparu gwerth £1.6 biliwn o gymorth.