Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 25 Hydref 2022.
Mae Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, Llywydd. Rwy'n meddwl mai un o gelwyddau mwyaf niweidiol tlodi yw bod tlodi yn cael ei achosi rywsut gan y bobl sydd mewn tlodi. Nid wyf i erioed wedi cwrdd â phobl a allai reoli arian yn well na'r bobl hynny sydd â'r lleiaf i ymdopi ag ef—mae'n rhaid iddyn nhw. Ac mae'r syniad mai diogi neu afradlondeb rhieni sy'n gyfrifol i'w wrthod yn llwyr. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £1 miliwn arall i gynorthwyo gwaith gwrth-dlodi ar lefel gymunedol yng Nghymru dim ond wythnos neu ddwy yn ôl. Mae hynny bellach yn £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Ac mae llawer o hynny'n mynd yn uniongyrchol i fanciau bwyd, sydd bellach yn gweld bod y rhoddion yr oedden nhw'n gallu dibynnu arnyn nhw cynt yn lleihau wrth i deuluoedd hyd yn oed ymhellach i fyny'r lefel incwm fethu â rheoli effaith prisiau ynni a chwyddiant bwyd. Tynnodd Sioned Williams sylw at waith Sefydliad Bevan, Llywydd, a bydd yn gwybod nawr, yn y gwaith hwnnw, nad teuluoedd sydd ar yr incwm isaf oll yn unig sy'n dweud na allan nhw fforddio'r pethau sylfaenol erbyn hyn; mae teuluoedd ymhellach i fyny'r raddfa incwm yn dweud hynny hefyd, wrth i bobl ganfod bod y pethau y maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau iddyn nhw pan oedden nhw mewn cyfnod gwell bellach y tu hwnt i'w cyrraedd.
Ac mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am daliadau sefydlog a'r mesuryddion talu ymlaen llaw, Llywydd, yn fy marn i, yn un o anghyfiawnderau mawr ein hoes. Codais hyn yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU yng Nghyngor Prydain-Iwerddon pan gyfarfu ym mis Gorffennaf, ac ysgrifennais yn syth wedyn at Weinidog Llywodraeth y DU a oedd yn bresennol, gan ofyn iddo weithredu ar lefel y DU i ganslo taliadau sefydlog i bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Ni all fod dim gwaeth, Llywydd, a all yna, na chanfod, ar ôl methu â chael mynediad at ynni ers llawer o ddiwrnodau a chrafu'r arian at ei gilydd er mwyn gallu llenwi'r mesurydd talu ymlaen llaw eto, nad yw'r arian rydych chi wedi ei roi ynddo yn ddim byd tebyg i'r arian yr ydych chi wedi ei ganfod gan ei fod eisoes wedi cael ei gymryd oddi arnoch? Mewn llawer o achosion, byddwch wedi cael eich rhoi ar fesurydd talu ymlaen llaw oherwydd dyled. Mae 60,000 o gwsmeriaid mesuryddion talu ymlaen llaw newydd yn y Deyrnas Unedig hyd yma eleni. Mae eu mesuryddion yn cael eu graddnodi fel mai'r peth cyntaf y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw talu'r arian sy'n ddyledus ganddyn nhw yn ôl. Wedyn maen nhw'n canfod, yn yr holl ddiwrnodau pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw drydan o gwbl, bod yn rhaid iddyn nhw dalu tâl sefydlog am gyfnod pan nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. Dychmygwch faint y mae'n rhaid bod hynny'n brifo. Mae'r pwynt y mae Mike Hedges yn ei wneud am y camau y gellid eu cymryd, am gost isel iawn, rwy'n credu, i'r Llywodraeth neu i'r cwmnïau, i unioni'r anghyfiawnder hwnnw yn alwad hynod bwysig rydym ni wedi ei chlywed y prynhawn yma.