Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, hoffwn eich hysbysu bod gennym ni chwe Aelod rhanbarthol ac un Aelod etholaeth sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r M4, felly mae gennym ni fudd personol, ac mae hynny'n gynnydd i nifer yr Aelodau a ddaeth yn ôl ar ôl etholiadau 2021.
Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: ar ôl y ffigurau amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf, un o'r materion mawr y mae llawer o bobl yn cael trafferth ag ef yw cael apwyntiad gyda meddyg teulu. Rwyf i wedi gweld, mewn rhannau eraill o'r DU, bod ymrwymiadau wedi cael eu gwneud, os bydd rhywun angen apwyntiad gyda meddyg teulu, y bydd yn ei gael o fewn deuddydd. A ydych chi'n barod i wneud ymrwymiad tebyg yma yng Nghymru?