Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn yna, Llywydd, oherwydd mae'n iawn: ar unrhyw ddarlleniad rhesymol o'r prosbectws presennol, mae colledion swyddi yn dod i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu i mi ddweud ar lawr y Senedd yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, pe baem ni'n gweld toriadau i wariant cyhoeddus o'r math sy'n tynnu dŵr i'r llygaid a addawyd gan Ganghellor y Trysorlys, yna bydd hynny'n arwain at golli cannoedd, os nad miloedd, o swyddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n gwbl anochel. Mae tua 50 y cant i 56 y cant o'r holl arian sy'n cael ei wario yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario ar bobl; cyflogi pobl i wneud y swyddi y mae pobl eraill wedyn yn dibynnu arnyn nhw. Os bydd toriadau i'r cyllidebau hynny, yna bydd y swyddi hynny'n cael eu colli. Mae'n gwbl anochel, a bydd yn ganlyniad uniongyrchol o orfod ymdrin â chanlyniadau trychinebus y Prif Weinidog mwyaf byrhoedlog yn hanes y DU.
Eto, mae Delyth Jewell yn iawn i gyfeirio at y ffaith bod y pwysau hynny'n ymddangos yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Mae Banc Lloegr yn dweud bod economi'r DU eisoes mewn dirwasgiad a bydd yn codi cyfraddau llog eto ym mis Tachwedd er gwaethaf y ffaith y bydd, o dan unrhyw amgylchiadau eraill, yn torri cyfraddau llog er mwyn cefnogi economi sy'n crebachu, a bydd hynny'n rhoi pwysau mawr ar gyflogaeth yn y sector preifat hefyd.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac yn y GIG i sicrhau, y gorau gallwn ni, bod pa bynnag effaith a ddaw o'r datganiad ar 31 Hydref cyn lleied â phosibl. Ac rydym ni'n gweithio gyda'n cyflogwyr mawr hefyd, y mae gan lawer ohonyn nhw gynlluniau i ehangu cyflogaeth yma yng Nghymru, oherwydd yr agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i'r materion hyn. Maen nhw'n deall ein bod ni'n bartneriaid gyda nhw, yn y busnes o'u helpu. Meddyliwch, Llywydd, am eiliad, am Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru yn y gogledd, a adeiladwyd gyda £20 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, a'r rheswm pam mae Wing of Tomorrow yn cael ei adeiladu gan Airbus yn y gogledd; y rheswm pam, gyda'r sector bwyd a diod yn y gogledd, mae gennym ni brosiect Ffatri'r Dyfodol wedi'i leoli yn yr AMRC—oherwydd ein bod ni'n deall, mewn ffordd nad yw'r Torïaid byth yn ei ddeall, fod buddsoddiad cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio'n briodol yn denu buddsoddiad preifat, ac ddim yn ei gau allan, a'i bod yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth i fuddsoddi mewn sgiliau gweithlu sy'n dod â chyflogaeth i Gymru yn y dyfodol. Dyna hanes Airbus; dyna hanes y clwstwr seiberddiogelwch yn y de. Maen nhw'n enghreifftiau o'r ffordd y gall agwedd synhwyrol at dwf economaidd wneud i bethau ddigwydd, yn union fel rydym ni wedi gweld beth all agwedd drychinebus tuag at dwf economaidd ei wneud i ragolygon y wlad ar gyfer y dyfodol.