Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 25 Hydref 2022.
Llywydd, nid wyf yn bwriadu ail-fyw mater sydd wedi ei hen setlo yma yng Nghymru. Fe wnaeth y Blaid Geidwadol gyflwyno eu hachos i'r bobl yng Nghymru yn etholiad diwethaf y Senedd. Roedd adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn addewid blaenllaw a wnaeth Plaid Geidwadol Cymru, a methodd eich plaid ag ennill yr un sedd—yr un sedd—ar hyd yr M4 gyfan yn ne Cymru. Felly, os ydych chi'n credu bod eich dadl yn un gadarn, gallwch chi barhau i'w chyflwyno i bobl yng Nghymru, a byddwch yn parhau i gael yr un ateb.
Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Burns—cyfres o gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd wrth yr M4. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, fydd yn golygu y bydd traffig trwm sy'n dod o ganolbarth Lloegr yn gallu mynd yn uniongyrchol i dde-orllewin Cymru heb orfod dod i lawr a mynd trwy Gasnewydd. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, Llywydd, ceir her fawr sy'n wynebu Llywodraeth y DU nawr. Lansiodd Llywodraeth Johnson adolygiad cysylltedd y DU. Fe wnaethon ni roi tystiolaeth i adolygiad Syr Peter Hendy—nid wyf i'n credu bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud hynny—ac fe wnaethon ni hyrwyddo yno'r buddsoddiad sydd ei angen i wella'r ail reilffordd, yr ail brif linell, i lawr o dde Cymru, er mwyn gallu tynnu traffig oddi wrth yr M4 ac fel bod gan bobl well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen. Fe wnaeth adolygiad Hendy gymeradwyo'r ddadl yr ydym ni wedi ei gwneud, ac, i fod yn deg, mae Llywodraeth y DU wedi darparu swm bach o arian i ddatblygu'r syniadau a gymeradwywyd gan adolygiad Hendy. Nawr fe fydd penderfyniad mawr. Fe gawn ni weld a fydd Prif Weinidog diweddaraf y DU yn bwrw ymlaen â'r addewidion a wnaed yn adolygiad cysylltedd y DU a dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi yng Nghymru, fel y gellir mynd i'r afael yn briodol â rhai o'r materion y mae Dr Hussain wedi'u crybwyll.