Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 25 Hydref 2022.
Ddydd Gwener yma, byddaf yn ymweld â Grŵp DRB yn fy etholaeth fy hun, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth mewn gweithgynhyrchu uwch yn DRB, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cwmni am ariannu fy ngradd rhan amser tra'r oeddwn i yno. Cyn i mi ymweld a dychwelyd i fy hen weithle, byddaf yn siarad mewn cynhadledd prinder sgiliau, a drefnwyd gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy. Pa neges gaf i ei hanfon gennych chi, fel Prif Weinidog Cymru, i'r gynhadledd, i gwmnïau fel Grŵp DRB yn Alun a Glannau Dyfrdwy, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r sgiliau i'r gweithlu nesaf i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion diwydiannol gwyrdd yn y gogledd-ddwyrain?