Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n ddiddorol, yr hyn a ddywedoch chi, a hoffwn nodi bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi prentisiaethau gradd yn llawn, ac, a dweud y gwir, rydym ni'n mynd ymhellach na'r polisi presennol. Ond, Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, sefais yma a chodais rai ystadegau pryderus yn amlygu mai gwrywod dosbarth gweithiol gwyn yw'r rhai lleiaf tebygol o fynd i'r brifysgol ar draws y DU, ond mae'r darlun yn waeth yng Nghymru. Fe wnaethoch chi awgrymu nad oedd y broblem cynddrwg ag y dywedais i, gan geisio esgusodi'r ffigurau. Fe ddywedoch chi, ac rwy'n dyfynnu:
'Ni fydd ein rhaglen prentisiaethau gradd yn cael ei chyfri yn y ffigurau y mae'r Aelod wedi'u hawgrymu y prynhawn yma', fel pe bai hynny rhywsut yn gwneud i'r sefyllfa edrych yn well. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2019-20, roedd 380 o brentisiaid newydd a pharhaus yn y rhaglen prentisiaeth gradd. Yn yr un cohort, aeth 83,800 o fyfyrwyr o Gymru i'r brifysgol—453 y cant yn fwy na'r nifer sy'n dilyn prentisiaethau gradd; dim ond 0.45 y cant o 83,800 yw 380. Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur o'r ystadegau y byddai prentisiaethau gradd, hyd yn oed pe baen nhw'n cael eu cynnwys yn y ffigurau, a'ch ffigurau newydd a amlinellwyd gennych chi nawr, yn gwneud ychydig iawn o wahaniaeth i'r niferoedd cyffredinol hynny a amlinellais. Felly, Prif Weinidog, mae'r broblem yn parhau: rydym ni'n gweld niferoedd isel o dderbyniadau prifysgol ymhlith dynion dosbarth gweithiol gwyn. Sut yn union ydych chi'n ceisio unioni'r sefyllfa, ac, eto, pa atebion ymarferol ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i sicrhau nad yw'r duedd honno'n parhau?