Gofal Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 25 Hydref 2022

Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid gofal cymdeithasol i wella telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu. Mae £43 miliwn wedi cael ei ddarparu i'r sector i'w helpu i gynyddu cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol. Yn ogystal â hynny, mae £45 miliwn wedi cael ei roi ar ffurf grant y gweithlu i awdurdodau lleol eleni.