Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 25 Hydref 2022.
Wel, Llywydd, fe wnaeth Hefin David gyfres o bwyntiau pwysig yn y fan yna, yr wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â phob un ohonyn nhw ac sydd i gyd yn feysydd yr ydym ni'n parhau i wneud ein hymdrechion ynddyn nhw. Soniais am y £43 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol, y buddsoddiad ychwanegol rydym ni wedi ei wneud—£10 miliwn a dweud y gwir, ar ben y £45 miliwn rydym ni'n ei ddarparu fel rheol yn y grant gweithlu blynyddol, i helpu awdurdodau lleol yn eu hymdrechion i recriwtio ac yna chadw gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn yn bwysig iawn i wneud hynny. Dyna pam y pasiodd y Senedd hon ddeddfwriaeth i'w gwneud yn ofynnol cofrestru'r gweithlu. Mae dros 40,000 o weithwyr ym maes gofal cymdeithasol eisoes wedi'u cofrestru neu ar fin cael eu cofrestru yma yng Nghymru. Fe wnaethon ni ddechrau trwy gofrestru gweithwyr gofal cartref, fe wnaethon ni symud ymlaen i gofrestru cartrefi gofal i oedolion hefyd, ac mae hynny'n bwysig gan mai trwy gofrestru rydych chi'n agor y drws i ddatblygiad gyrfaol, hyfforddiant, cyfleoedd, hyfforddiant arweinyddiaeth. Mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei sefydlu yn rhan o'r fforwm partneriaeth gymdeithasol, newydd gwblhau'r fersiwn gyntaf o fodel y maen nhw'n mynd i'w hyrwyddo ar gyfer datblygiad gan weithwyr ym maes gofal cymdeithasol. Felly, os byddwch chi'n dod yn weithiwr gofal cymdeithasol, gallwch weld sut y gallai gyrfa ddatblygu o'ch blaen, fel y byddech chi, yn wir, pe byddech chi'n ymuno â'r GIG. Rwy'n hapus iawn i edrych i weld a fyddai sgwrs rhwng y fforwm a Mr Southall yn ffordd dda o fwrw ymlaen â rhai o'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud, a gyflëwyd gan yr Aelod dros Gaerffili y prynhawn yma.