Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 25 Hydref 2022.
Llywydd, cofnododd prosiect blodau gwyllt sir Ddinbych 268 o rywogaethau blodau gwyllt ar eu safleoedd yn 2021. Nid oedd 136 o'r rhywogaethau hynny wedi cael eu canfod yno o'r blaen, ac mae rhwydwaith safleoedd y prosiect yn tyfu bob blwyddyn, wedi'i gefnogi gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.