Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 25 Hydref 2022.
Rwy'n siŵr y bydd aelodau ar draws y Siambr eisiau nodi Diwrnod Strôc y Byd, ac i gydnabod y datblygiadau sylweddol iawn sydd wedi bod yn ddiweddar mewn triniaethau sydd ar gael i gleifion strôc a'r ffordd y mae'r GIG wedi gallu ymateb i hynny. Nid ydw i'n ddigon cyfarwydd â manylion cwestiwn yr Aelod i roi ateb uniongyrchol iddo ar y pwyntiau hynny y prynhawn yma, ond mae'r Gweinidog iechyd yn ei lle, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi hi bethau y gall hi eu dweud yfory, rwy'n credu, pan fydd hi'n cyfrannu ar lawr y Senedd, bydd hynny'n help i ateb y pwyntiau pwysig mae Paul Davies wedi'u gwneud y prynhawn yma.