Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar yr oriel gelf gyfoes genedlaethol wedi ei dynnu'n ôl. Hefyd, mae'r drafodaeth ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gohirio tan 15 Tachwedd. Yn olaf, mae datganiad llafar ar gau pont Menai wedi'i ychwanegu fel yr eitem olaf ar agenda heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.