Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 25 Hydref 2022.
Diolch. Yn amlwg, wrth i ni gyflwyno'r polisi hwn, bydd mwy o waith yn cael ei wneud gyda'n hysgolion, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi cael ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â gwaith pellach oedd yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref. Yn amlwg, rydym ni'n dal ym mis Hydref, felly byddwn yn gobeithio pan fydd ganddo'r wybodaeth honno wrth law, os yw'n teimlo bod angen iddo wneud diweddariad, y bydd yn gwneud hynny.