4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:41, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

I ddechrau, ynglŷn â'ch pwynt chi am y cyrsiau unigol sydd ar gael, nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y pwynt arbennig hwnnw nawr, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod yn dod yn ôl atoch chi gyda'r manylion o ran y pwynt arbennig hwnnw.

Ynglŷn â'ch pwynt olaf chi ynghylch buddsoddiad sero net a'r cyhoeddiad a wnaethom ni heddiw ynghylch y gefnogaeth newydd a ddylai fod ar gael i helpu gyda datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni a lleihau costau ynni, y tro diwethaf i ni siarad fe fynegais i y byddai gennyf i fwy i'w ddweud yn ystod yr wythnosau nesaf, a dyma ni. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny ers cryn amser. Nid rhywbeth sydd wedi ei greu yn ystod yr wythnos diwethaf fwy neu lai mohono.

Ystyr hyn yn rhannol yw ceisio creu pontio teg, i sicrhau, wrth i ni ddatgarboneiddio, nad ydym ni dim ond yn cadw'r swyddi sydd gennym ni, ond ein bod ni mewn gwirionedd yn helpu i leihau risgiau'r dyfodol i raddau, nid yn unig o safbwynt ehangach o ran yr hinsawdd, ond o ran y costau sy'n bodoli nawr i fusnesau. Dyma rywbeth yn fy marn i y bydd nifer o fusnesau yn awyddus i'w ystyried yn fanwl iawn. Ac, fel dywedaf i, ar y pwynt ynglŷn ag amgylchiadau unigryw busnesau unigol fel roeddech chi'n sôn, wel, mae'r rhain yw amrywio yn fawr rhwng y naill fusnes a'r llall. Bydd anghenion busnesau unigol yn yr un sector yn wahanol, a chyfleoedd amrywiol ganddyn nhw, efallai, i fanteisio ar hynny. Hynny yw, edrych ar wead eu sefydliadau nhw ar hyn o bryd a'u cyfleoedd nhw i wneud y gorau o hynny. Dyna pam yr oeddwn i'n tynnu sylw at y ffaith mai'r cyfle sydd yma yw gallu edrych ar yr hyn sy'n bosibl i'r busnes unigol hwnnw. Yn ogystal â hynny, fe fydd hi'n bosibl y byddwn ni'n gallu cefnogi cynlluniau ynni ardal yn y pen draw hefyd, os ydych chi'n meddwl am nifer y busnesau a allai rannu ôl troed eang cyffredin yng nghyd-destun parc busnes neu ardal ac sy'n awyddus i ystyried a fyddai hi'n bosib gwneud mwy o fewn lleoliad arbennig ac nid yn unig yng nghyd-destun busnesau unigol. Felly, fe fydd yna amrywiaeth o wahanol amgylchiadau unigol.

Y gwirionedd arall y mae'n rhaid i ni ei wynebu yw, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth sydd ar gael, ac mae hyn oddi wrth y banc a'r benthyciadau a gynigir ganddo, pa un a yw ar ffurf ecwiti neu'n gyllid benthyg unigol neu gyfuniad o'r pethau hyn, nid oes gan Lywodraeth Cymru, fel rydym ni wedi dweud heddiw, mo'r grym noeth i ddarparu cynllun ar sail grantiau a fydd yn ymestyn at bob maes yn yr economi. Fe wn i fod yna fwy o fusnesau â heriau a fyddai'n fusnesau hyfyw fel arall yn fy marn i ond nid oes gennym ni fodd i'w cefnogi nhw. Dyna pam yr ydym ni'n aros mor ddisgwylgar am ganlyniad y gyllideb Calan Gaeaf. 'Wn i ddim a gawsoch chi gyfle i wrando ar y Gweinidog cyllid yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg heddiw, ond y sefyllfa wirioneddol o ran ein cyllideb ni'n syml yw nad oes gennym ni arian ychwanegol sy'n cael ei ddal yn ôl mewn gobaith y gallwn ni ei fuddsoddi eto dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae hwn yn ddarlun ariannol dyrys tu hwnt sy'n ein hwynebu ni, ac mae'r busnesau eu hunain yn gwybod hynny hefyd.

Yn y sgyrsiau a gefais i ag amrywiaeth o grwpiau busnes o wahanol feintiau mewn gwahanol sectorau, roedden nhw i gyd yn gwybod nad yw'r arian gennym ni'n aros ar eu cyfer nhw. Mewn gwirionedd, roedd busnesau gweithgynhyrchu yn eglur iawn eu bod nhw'n bryderus ynglŷn â'r dyfodol, nid am nad oedd ganddyn nhw lyfrau'n llawn archebion, ond oherwydd eu bod nhw'n ymwybodol o'r costau a'r prisiau cynyddol ar gyfer nwyddau, yr heriau o ran chwyddiant, ac maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd bod angen i Lywodraeth y DU weithio fel pe byddai hi ar eu hochr nhw i'w helpu nhw drwy'r hyn sydd i ddod. Fe fyddwn ni i gyd yn canfod yn weddol fuan sut wedd fydd ar bethau mewn gwirionedd. Fe fyddwn i'n falch iawn o gael fy nghywiro ac y bydd pecyn hael ar gael i helpu busnesau i oroesi yn eu sefyllfa bresennol, ond nid yn unig hynny, i ffynnu mewn gwirionedd yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, serch hynny, fe fyddwn yn gwneud y gorau o'r manteision sydd gennym ni, ac mae Banc Datblygu Cymru yn un o'r rhain. Ond ni allaf i ddweud wrthych chi na neb arall y byddwn ni'n gallu achub pob busnes unigol y byddem ni fel arall yn awyddus i'w achub.

O ran Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru a'r sefyllfa bresennol wirioneddol gyda chyllid yn lle cyllid o Ewrop, fel nodais i—ac rwyf i wedi bod yn gwbl agored o'r cychwyn cyntaf—fe geir effaith wirioneddol ac arwyddocaol oherwydd y cronfeydd Ewropeaidd sy'n diflannu heb unrhyw beth tebyg o ran gwerth yn eu lle nhw neu, yn wir, o ran eu dibenion nhw. Yr hyn y mae'n yn ei olygu, er hynny, yw ar gyfer cynnal Busnes Cymru, sef yr hyn a wnes i, rwyf i wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn gyda gweddill fy nghyllideb adrannol i. Mae hynny'n golygu nad wyf i wedi gallu buddsoddi mewn meysydd eraill y byddwn i fel arall wedi bod yn awyddus i fuddsoddi ynddyn nhw i helpu i gefnogi dyfodol economi Cymru, am fy mod i o'r farn fod gwasanaeth Busnes Cymru yn wir bwysig ledled Cymru, ac fe allwch chi weld hynny o'r canlyniadau a'r niferoedd o fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth, cymorth a chyngor gan Fusnes Cymru. Unwaith eto, mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud wrth eu cymheiriaid yng ngweddill y DU yn rheolaidd fod yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru mewn gwirionedd yn werthfawr iawn. Mewn gwirionedd, fe hoffai Ffederasiwn y Busnesau Bach yn Lloegr weld gwasanaeth fel Busnes Cymru mewn rhanbarthau ledled Lloegr. Mae hynny'n esbonio pam y bu i mi warchod y cyllidebau i'r dyfodol ar gyfer y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Pe byddai swm tebyg o arian gennym ni i fuddsoddi mewn gwahanol ddewisiadau, fe fyddai'n golygu y byddem ni'n gallu gwneud mwy, ac, yn wir, fe allai Banc Datblygu Cymru ehangu eto hefyd.

Yn olaf, o ran cefnogaeth ymarferol i fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr—ac rwy'n cydnabod y pwynt nad yw  rheolwyr yn prynu busnesau yn gwbl gyfystyr â hynny o reidrwydd—mae gennym ni hyd at 40 o fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr erbyn hyn, ac yn ddiweddar rwyf i wedi cadarnhau bod £170,000 ychwanegol ar gael i Gwmpas Cymru i helpu gyda'r cymorth ymarferol hwnnw i symud busnesau o un dull o berchnogaeth i un arall. Fe geir enghreifftiau da iawn o fusnesau newydd sy'n eiddo i'w gweithwyr yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi pryd y byddwn ni, fel rwy'n ffyddiog y byddwn ni, wedi cyflawni ein nod maniffesto ni, sef dyblu maint y sector.