4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:55, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai hynny'n briodol wedyn yn fy marn i, oherwydd fe gafodd ei sefydlu yn rhannol i ymdrin â'r bwlch y soniwyd amdano ynglŷn â chwmnïau bach i ganolig, fel roedd Mike Hedges yn dweud, am estyn cyfalaf i rai o'r busnesau hynny, a oedd yn broblem i fenthycwyr traddodiadol yn aml. Nawr, nid yw hynny'n golygu nad yw benthycwyr ar y stryd fawr yn gwneud unrhyw beth i helpu pobl ar y daith honno o ran twf, ond mewn gwirionedd dyma lle mae'r alwad wirioneddol wedi bod am weithredu pellach. A'r rhannau amrywiol o'r wlad y mae pobl ynddyn nhw hefyd, ac rwy'n cydnabod bod honno'n ffactor wirioneddol yn eich etholaeth chi. Felly, ydym, rydym ni'n ystyried hynny, ond nid yw'n ymwneud â'r banc datblygu yn unig.

Nid wyf i wedi pennu nod na mesur arbennig iddyn nhw. Rwy'n fwy na pharod i drafod hyn gyda'r Aelod ac eraill—ac mae cyfarfod ehangach i ddod ar gyfer trafod rhai o'r pwyntiau hyn—am y cylch gwaith a osodais i iddyn nhw a phryd a sut yr ydym ni'n disgwyl gweld cynnydd. Ond ystyr hyn wedyn hefyd yw cynnal rhan o'r sgwrs gyda'r brifddinas-ranbarth, er enghraifft. Yr hyn yr ydym ni'n ei siarad amdano gyda nhw a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld ac yn disgwyl ei weld wrth i'r brifddinas-ranbarth fuddsoddi mwy o arian yw sicrhau, unwaith eto, nad yw'n digwydd o gwmpas Caerdydd a Chasnewydd yn unig ond bod angen i'r brifddinas-ranbarth yn ei chyfanrwydd weld y budd—ac nid yn unig i dynnu pobl yn gyflym o rannau eraill o'r brifddinas-ranbarth i Gaerdydd neu Gasnewydd neu ganolfannau trefol mawr eraill ond mewn gwirionedd i ysgogi rhywfaint o dwf mewn rhannau eraill o'r rhanbarth hefyd. Ni all fod i gyn i un cyfeiriad, tynnu pobl o'r Cymoedd i mewn i Gaerdydd a Chasnewydd.

Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y metrigau yr ydym ni'n eu gosod i ni ein hunain, ac mae hynny'n cyffwrdd â'r penbleth o ran cynhyrchiant hefyd, oherwydd ystyr llawer o hynny'n aml yw'r ysgogiadau sydd ar gael i ni ar gyfer buddsoddi mewn cyfalaf dynol, mewn sgiliau a phobl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael pobl i fuddsoddi wedyn mewn ardaloedd lle mae'r bobl hynny eu hunain yn byw ac yn gallu gweithio ynddyn nhw. Felly, mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau gennym ni, gan nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud. Bydd angen i ni edrych eto i weld a oes unrhyw newid cyfeiriad sy'n wahanol yn yr ailadroddiad diweddaraf o Lywodraeth y DU, oherwydd fe nodwyd y cynllun hwnnw pan oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy gweithredol ac roedd pobl yn nes at y farchnad. Mae'n ddigon posibl y bydd angen i ni ystyried unwaith yn rhagor, yn gynt na'r disgwyl yn fy marn i, a ydym ni'n parhau i wneud digon a hynny yn y mannau priodol oherwydd, mae arna' i ofn, fe fyddwn ni'n wynebu darlun economaidd llymach, gyda mwy o bobl ar y clwt yn y misoedd nesaf o bosibl.

Felly, ein hymyriadau ni, fel rhaglen ReAct+—a ydyn nhw am wneud digon i gael pobl yn ôl i waith yn gyflym, ac a ydym ni'n gwneud digon i gael pobl sydd wedi bod mewn segurdod economaidd hirdymor yn ôl ar lwybr i fod yn gweithio a bod â'r sgiliau i wneud mwy na dim ond mynd i'r gwaith ond i lwyddo ym myd gwaith hefyd? Dyma pam yr ydym ni'n edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein lle polisi sgiliau hefyd, nid yn unig o ran prentisiaethau ond mewn hyfforddiant mewn gwaith yn ogystal â hynny. O ran y gweithlu presennol, mae dyfodol gwaith yma eisoes mewn llu o wahanol ffyrdd. Ymhen 10 mlynedd, fe fydd y rhan fwyaf o'r bobl sydd mewn gwaith eisoes yn gweithio. Yr hyn sydd ei angen i ni ei wneud yw sicrhau bod y sgiliau ganddyn nhw a fydd yn addas ar gyfer y byd gwaith ymhen 10 mlynedd. Felly, ystyr hyn i raddau helaeth fydd buddsoddi yn y gweithlu presennol, ac fe fydd hynny'n bendant yn gwneud gwahaniaeth i gynhyrchiant.

A'r pwynt olaf yn hyn o beth yw buddsoddi yn ansawdd yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth sydd gan fusnesau. Nid gweithwyr ar lawr gwaith yw hynny'n unig, os mynnwch chi, mae hynny'n ymwneud hefyd â'r arweinwyr a'r rheolwyr sydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd a chynhyrchiant busnesau. Ond, fel dywedais i, rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n siarad mwy am hynny yn y Siambr a'r tu allan iddi yn y misoedd i ddod.