5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rôl y Sector Cyhoeddus yn System Ynni’r Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 25 Hydref 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:34, 25 Hydref 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Jane, am hynny. Rwy'n falch iawn, fel y dywedaf, wrth fy modd, yn cyhoeddi hyn, yr hyn sy'n fuddsoddiad tymor hir iawn i bobl Cymru. Rwy'n siŵr na fydd hi'n ddadleuol, dim ots pwy fydd y Llywodraeth ar ein holau, oherwydd dylen ni fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl, ond yr ail adeg orau yw nawr. Felly, dyma ni, yn mynd amdani.

Mae hyn yn ychwanegol i ynni cymunedol. Felly, ni fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ynni cymunedol. Ond, mae angen ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr arnom ni hefyd, ac, fel rwyf wedi bod yn dweud, y ffordd rydym ni'n gweld hyn yn gweithio yw y bydd yr elw o hyn yn dod yn ôl yn uniongyrchol i bobl Cymru. Nid buddion cymunedol yn unig fel a geir mewn mannau eraill. Ac yna, gellir ail-fuddsoddi'r elw hwnnw i nifer fawr o brosiectau, cynlluniau ynni adnewyddadwy eraill sylweddol, ond, wrth gwrs, ynni adnewyddadwy cymunedol hefyd. Mae hefyd yn rhoi troedle go iawn i ni yn y cynllunio ar gyfer y grid, sy'n bwysig iawn, ac rwy'n pwysleisio hynny o hyd. Ac mae'n rhoi prosiect enghreifftiol i ni, i bob diben, o sut y gellid gwneud hyn ledled Cymru. Felly, wrth ateb Huw Irranca, roeddwn i'n dweud y bydd hyn yn ymwneud â'r math gorau o ymgysylltu, y math gorau o gyd-fentro â phartneriaid yn y sector preifat, a'r math gorau o gydberchnogaeth gymunedol, hyd yn oed ar brosiect adnewyddadwy mawr. Felly, mae gennym ni lawer o uchelgais ar gyfer y prosiect hwn cyn iddo ddechrau hyd yn oed.

Ac yna, ynghylch rhan arall eich cwestiwn, rydym ni wedi cynnal adolygiad trwyadl fel yr argymhellodd yr archwiliad manwl, ynglŷn â thrwyddedu morol yng Nghymru, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny'n dod i gasgliad nawr. Byddwn yn addasu'n Bil Cydsynio Seilwaith, fydd yn dod i'r Senedd erbyn diwedd eleni—felly, 'tymor yr haf' mewn ffordd o siarad. Bydd hynny, wrth gwrs, yn llywio ein proses gydsynio, ond mae'n hanfodol bod gennym ni barhad o'r rheoliadau cynefinoedd oherwydd holl ddiben hyn yw cael y cydbwysedd cywir rhwng cyflymder y darparu, fel ein bod yn gweithredu ar lwyfan byd-eang, ac amddiffyn yr amgylchedd, fel nad oes gennym ni ganlyniadau anfwriadol. Felly, bydd y darn nesaf o waith yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn.