Part of QNR – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2022.
Mae gwella mynediad at ofal sylfaenol yn un o addewidion allweddol y Llywodraeth. Mae pob gwasanaeth gofal sylfaenol sydd wedi ei gontractio yn mynd drwy broses ddiwygio gofal sylfaenol, ac mae cynyddu mynediad yn hollbwysig i drawsnewid gwasanaethau. Fel rhan o’r rhaglen datblygu clystyrau carlam, mae mentrau cydweithredu proffesiynol yn cael eu sefydlu. O ganlyniad, bydd gwasanaethau sy’n dod â sawl proffesiwn at ei gilydd—a gwasanaethau y bydd yn hawdd cael mynediad atyn nhw—yn cael eu datblygu.