Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Byddwch chi'n ymwybodol, Weinidog, fod yna ganran uchel yng Nghymru o gartrefi sydd ddim yn gysylltiedig â'r grid cyflenwad nwy—hynny yw, bron un mas o bump o bob cartref. Ac mewn rhai mannau yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, mae e gymaint â 39 y cant. Dyw'r cartrefi yma, sydd yn ddibynnol ar olew cartref neu danwyddau amgen eraill, wrth gwrs ddim yn elwa o'r cap ar brisiau ynni—dŷn nhw ddim yn cael y 4 y cant o ddisgownt; dim ond £100 maen nhw'n ei dderbyn trwy Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi derbyn nad yw hwnna'n ddigon. Ydych chi'n dwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud mwy? Ac yn y cyfamser, pa gymorth ychwanegol, ar ben yr hyn rydych chi wedi sôn amdano'n barod, y gallwn ni ddarparu i'r cartrefi yma sydd yn mynd i wynebu cyfnod anodd iawn yn ystod y misoedd sy'n dod?