Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:47, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae disgwyl i bensiynwyr yn y DU fod oddeutu £442 y flwyddyn yn waeth eu byd o fis Ebrill ymlaen yn dilyn cyfradd bensiwn is a thoriad mewn cymorth ar gyfer biliau ynni. O ystyried bod dros 75 y cant o bobl dros 65 oed a arolygwyd gan Age UK ym mis Ionawr eleni yn poeni am yr argyfwng costau byw cynyddol, ac ers hynny, fod cyfradd chwyddiant a chost biliau ynni wedi parhau i gynyddu, beth mae’r Dirprwy Weinidog yn ei wneud i hybu diwygio lles drwy wneud y defnydd mwyaf posibl o’n cymwyseddau datganoledig i sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu at bobl hŷn sydd angen cymorth, yn enwedig y rheini a fydd yn wynebu costau ynni a symudedd uwch na’r cyfartaledd? A wnewch chi hefyd nodi i ba raddau y mae pobl dros 60 oed yn cael mwy o help i gael mynediad at y gronfa cymorth dewisol, gan gofio’r atebion a gefais i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynais yn gynharach eleni, a oedd yn awgrymu bod llai nag 1 y cant o bobl dros 60 oed wedi cael mynediad at y gronfa?