Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 9 Tachwedd 2022.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Byddaf yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad hwnnw ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru i annog swyddogion i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Rwyf am ddatgan ar y pwynt hwn fy mod yn llysgennad y Rhuban Gwyn, yn union fel oedd fy nhad. Ond nid fi yw’r unig ymgyrchydd dros y Rhuban Gwyn yma yn y Senedd. Mae fy ffrind agos a’m cyd-Aelod Joyce Watson wedi treulio blynyddoedd yn hyrwyddo digwyddiadau ac ymrwymiad i addewid y Rhuban Gwyn i gyrraedd y nod gwirioneddol glir o ddod â thrais domestig i ben. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y dylai pob dyn a bachgen yng Nghymru wneud addewid i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod?