Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Fel y dywedwch, Weinidog, mae gwaith gwych yn mynd rhagddo yn yr ysgolion ar berthnasoedd parchus ac iach, ac mae hynny'n hynod o bwysig. Ond mae angen inni ledaenu’r neges yn ehangach nag ysgolion a mynd â hi y tu hwnt i giatiau’r ysgol i sefydliadau fel, er enghraifft, y Sgowtiaid a chadetiaid y fyddin, clybiau pêl-droed, a mannau eraill lle mae bechgyn yn dod at ei gilydd. Felly, a allwch ddweud wrthyf am unrhyw waith a wnewch i ddylanwadu ar y sefydliadau hyn i archwilio ffyrdd y gallant helpu'r unigolion hynny i ddod yn fodelau rôl a lledaenu neges y Rhuban Gwyn yn ehangach?