Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n parhau i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau post, fe gyfarfûm â'r Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ar wahân yn ôl ym mis Gorffennaf i drafod y sefyllfa. Ers hynny, rwyf wedi ysgrifennu at y ddwy ochr—fis diwethaf—i ofyn am ddiweddariad ar y sefyllfa ac i annog datrysiad sy'n gweithio i'r gweithlu a'r gwasanaethau post.