Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol, fel y dywedwch, mae mater tlodi mislif yn amlycach nag erioed. Felly, rwy'n falch fy mod wedi sicrhau cynnydd o £450,000 i'r grant urddas mislif eleni, i gryfhau ymateb awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw. Mae cyfanswm ein grant urddas mislif ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach dros £3.7 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i sicrhau, yn ogystal â chael cynnyrch ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, eu bod ar gael, fel y gwyddom i gyd, ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol, ac mae hyn yn cynnwys banciau bwyd a phantrïau, llyfrgelloedd, canolfannau ieuenctid a hybiau cymunedol. Rwy'n falch fod pob lloches i fenywod yng Nghymru wedi cael cynnig arian i sicrhau bod ganddynt gynnyrch mislif ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Ac mae angen inni sicrhau bod cynhyrchion am ddim ar gael yn llawn ac yn hygyrch mewn mannau dynodedig a bod pobl yn gwybod amdanynt ac nad ydynt dan glo mewn peiriannau y mae'n rhaid ichi dalu amdanynt, fel y dywedoch chi.
Rydym bellach yn datblygu map o lefydd yng Nghymru lle mae cynnyrch ar gael, er mwyn rhoi rheolaeth i bobl dros chwilio am gynnyrch a gweld lle maent ar gael yn agos atynt. Bydd hyn yn helpu i ddileu rhwystrau rhag sicrhau urddas mislif gwirioneddol ac yn ei hyrwyddo. Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth wedi'i diweddaru ac yn hawdd ei chael, a byddwch yn gallu defnyddio hidlyddion y map i nodi gwahanol fathau o sefydliadau sy'n darparu cynnyrch mislif a dod o hyd i'r lle agosaf atoch. Oherwydd mae sicrhau bod y cynhyrchion yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen yn hanfodol er mwyn i'r grant lwyddo. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o effaith y grant urddas mislif er mwyn deall sut y gellid gwella'r mesurau presennol i sicrhau ei fod yn cyrraedd cymunedau sy'n agored i niwed ledled Cymru ac mae hefyd yn canolbwyntio cymorth i deuluoedd sydd fwyaf o angen mynediad at y prosiectau a ariannir drwy'r grant. Rydym hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol adrodd ar eu gwariant ddwywaith y flwyddyn yn lle unwaith y flwyddyn, fel y gallwn fonitro'n agos iawn sut mae'r grant yn cael ei ddosbarthu a gwneud addasiadau os oes angen. Rydym yn prosesu'r ceisiadau canol blwyddyn ar gyfer eleni; rydym wedi gweld gwaith addawol yn cael ei wneud, yn cynnwys gwasanaethau tanysgrifio, lle gall rhai mewn angen archebu cynhyrchion yn syth i'w cyfeiriad cartref, yn ogystal â sicrhau, yn achos cynhyrchion mislif brys, eu bod ar gael ledled y gymuned. Felly, gallwch weld o'r enghreifftiau hyn fod awdurdodau lleol, sydd ar y pen cyflenwi, yn dysgu sut y gallant gael y cynhyrchion i bobl o ganlyniad i ymgysylltiad a dysgu drwy gyflwyno'r grant.
Ond mae gennym gyfle hefyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ystod ehangach o gynhyrchion, sydd â'r fantais ychwanegol o helpu'r amgylchedd. Felly, eleni rydym wedi cynyddu'r gofyniad i awdurdodau lleol wario canran o'u cyllid ar gynhyrchion ailddefnyddiadwy neu ddi-blastig o 50 y cant i 65 y cant. Mae cost gychwynnol cynnyrch y gellir ei ailddefnyddio yn gallu bod yn rhwystr i rai wrth gwrs, ac rydym am roi cyfle i bobl roi cynnig ar y cynhyrchion hyn heb fod ar eu colled. Efallai na fydd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn addas ar gyfer pawb, ac nid oes pwysau i newid i'r cynhyrchion hyn; mae'n ymwneud â dewis i'r defnyddiwr, ac efallai y byddant yn dewis parhau i ddefnyddio cynhyrchion tafladwy ond yn dewis rhai sy'n ddi-blastig yn lle hynny, a gall y cynhyrchion hyn hefyd gyfrannu at y gofyniad 65 y cant. Er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prosiectau hyn, rydym wedi caniatáu i hyd at 20 y cant o'r grant a ddyrannwyd i awdurdodau lleol gael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddiant neu addysg mewn ysgolion a chymunedau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, dysgwyr ac aelodau o'r gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw hyfforddiant ac addysg ddarparu gwybodaeth am y cyfle i fynd â chynnyrch mislif ailddefnyddiadwy gartref. Mae hyn, unwaith eto, wedi dod o ganlyniad i ddysgu ac adborth gan awdurdodau lleol fod angen yr hyfforddiant a'r addysg honno i ymgysylltu, fel y dywedais, â holl staff a chymuned yr ysgol.
Felly, rydym wedi ymrwymo i ddileu tlodi mislif, ac yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella mynediad teg a chyfartal at gynhyrchion, ond rydym yn glir fod dileu tlodi mislif yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu cynnyrch. Rydym am ddileu'r cywilydd, y stigma a'r tawelwch sydd mor aml yn gysylltiedig â sgyrsiau am y mislif, gan atal rhai rhag cael gafael ar, neu gael cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnynt, a mynediad at gynhyrchion efallai, sut i reoli eu mislif yn ddiogel, deall y cylch mislif, cael gwybodaeth a dealltwriaeth i wneud dewis gwybodus am y cynhyrchion y maent yn eu defnyddio a phryd y gallent fod angen cymorth gan weithiwr meddygol proffesiynol.
Felly, rydym ar ddechrau cyfnod newydd yn y daith tuag at urddas mislif cyflawn yng Nghymru, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi ein cynllun ar gyfer dileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb erbyn 2027. Mae'r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais i sicrhau bod gan fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif fynediad at gynhyrchion hanfodol pan fyddant eu hangen, i ddarparu addysg ac adnoddau i wella dealltwriaeth, a dileu stigma a chywilydd cysylltiedig.
Byddwn yn lansio ymgyrch genedlaethol ac yn galw am weithredu gan bawb er mwyn gwneud Cymru'n genedl sy'n falch o'n mislif. Rydym wedi ymgynghori llawer i'n cael i'r pwynt hwn, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod wedi ymgysylltu'n helaeth â'n bwrdd crwn o wahanol ddiddordebau a phrofiadau—pobl o awdurdodau lleol, sefydliadau, Plant yng Nghymru ac eraill, gan gynnwys Molly Fenton o'r ymgyrch Love Your Period. Mae Molly wedi bod yn rhan allweddol o'n gwaith. Mae wedi bod yn drawslywodraethol iawn o ran addysg, iechyd a chydweithio gydag adnodd y GIG ar y we, Mislif Fi. Felly, os caf ddweud eto, mewn ymateb i'ch pwyntiau am gyfraniad Molly Fenton, Heledd, rwy'n cymeradwyo eich cefnogaeth a'ch cydnabyddiaeth o'r hyn y mae Molly wedi'i gyflawni, ei chryfder, ei dewrder, ac yn condemnio'r gamdriniaeth a brofodd o ganlyniad i'w safiad ymgyrchu. Mae hi'n parhau i ymgysylltu â ni ac i ddylanwadu arnom, oherwydd rydym angen cyngor arbenigol gan y bobl sydd â phrofiad bywyd ar gyfer datblygu polisi a strategaeth. Mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â'r grŵp ddiwedd y mis hwn, a byddant yn falch iawn o glywed am y ddadl hon heddiw.
Rhaid imi ddiolch i Plant yng Nghymru, Women Connect First a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru—maent i gyd wedi ein cynorthwyo i ymgysylltu â phobl ifanc—a hefyd i bawb y cyfarfuom â hwy drwy ysgolion, ac yn wir, Women Connect First am ein galluogi i gyfarfod â menywod du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn arbennig?
Felly, yn olaf, ar eich galwad am ddeddfwriaeth, nid ydym wedi canfod angen am ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, o ystyried ehangder y gwaith a wnawn a'r newid diwylliant y credaf ei fod eisoes yn dechrau, oherwydd mae ein gwaith yn seiliedig ar ddysgu ar y cyd a chydweithio i gyflawni'r cynnydd y gallai deddfwriaeth ei gynnig. Ond rydym yn parhau mewn cysylltiad agos â'n cymheiriaid yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon i ddeall effaith y ddeddfwriaeth ac unrhyw wersi y gallwn eu dysgu. Ond rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru gyda'n gilydd i ddileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif, a diolch i chi am eich cyfraniad heddiw gyda'r ddadl hon, ac rwy'n credu ein bod yn bendant ar ein ffordd i ddod yn genedl sy'n falch o'n mislif. Diolch.