Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:23, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb, Gwnsler Cyffredinol. Rwy'n gwybod eich bod yn cytuno bod y goelcerth hon o gyfraith yr UE a ddargedwir a ddechreuwyd gan Rees-Mogg yn un hynod o beryglus. Nid yn unig y mae'n peryglu amddiffyniadau pwysig, gan gynnwys hawliau gweithwyr a mesurau newid hinsawdd, mae hefyd yn ymgais amlwg i danseilio datganoli, Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. O ystyried y bydd gan y Bil hwn oblygiadau difrifol i'r gwledydd datganoledig, rwy'n ei chael yn gwbl annerbyniol nad ymgynghorwyd yn briodol â hwy. Gwnsler Cyffredinol, pa sylwadau rydych chi wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ar y mater hwn, a pha drafodaethau a gawsoch gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â diogelu cymwyseddau'r Senedd hon? Diolch.