2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wrth ymateb i'ch datganiad yma ym mis Mai ar gyfiawnder yng Nghymru, dywedais,
'o gofio i uwch swyddogion yr heddlu ddweud wrthyf yn ystod fy ymweliad ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru: mae'r holl gynllunio am argyfyngau yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda gogledd-orllewin Lloegr; mae 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn lleol neu'n gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oes gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw weithrediadau sylweddol sy'n gweithio ar sail Cymru gyfan; a bod tystiolaeth a roddwyd i gomisiwn Thomas' ar hyn wedi
'cael ei hanwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn', gofynnais,
'pam ydych chi'n credu mai dim ond un cyfeiriad at unrhyw droseddu trawsffiniol yng nghyd-destun llinellau cyffuriau y mae adroddiad comisiwn Thomas ar gyfiawnder yn ei gynnwys, ac mai'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond dim cyfeiriad at bartneriaid dros y ffin, gyda phwy y mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn gwirionedd?'
Fe wnaethoch chi fy nghyhuddo o roi 'ymateb pen-yn-y-tywod', ond mewn gwirionedd anwybyddu'r materion allweddol hyn yw'r ymateb pen-yn-y-tywod peryglus—
Mark Isherwood, mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws, ond roeddem i gyd yno pan wnaethoch chi ofyn y cwestiynau hyn a chael yr ymateb hwn. Os gallwch ofyn eich cwestiwn ar gyfer heddiw, os gwelwch yn dda—ac mae eich amser wedi dod i ben nawr, ond rwy'n caniatáu ichi ei ofyn.
Pa gamau, os o gwbl, rydych chi wedi eu cymryd i ymchwilio i'r hepgoriadau difrifol a nodais ac i gasglu'r dystiolaeth angenrheidiol sydd ar goll?
Nid fy rôl i yw ateb dros gomisiwn Thomas, na mynd i'r afael â materion penodol sydd o fewn comisiwn Thomas neu beidio. Fy rôl i—rôl Llywodraeth Cymru—yw ystyried cyfanswm yr argymhellion a wnaed gan gomisiwn Thomas, eu gwerthuso ac ystyried sut gellid mynd ar drywydd y rheini.
Mae'n amlwg fod mater datganoli plismona yn un sydd wedi ei godi, ac mae'n un sydd wedi arwain at amrywiaeth o gyfarfodydd rhyngof fi, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal, yn y bwrdd partneriaeth plismona sydd wedi'i sefydlu, a chydweithio'n agos iawn â'r comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd. Wrth wneud hynny, yr hyn y ceisiwn ei wneud yw cael partneriaeth briodol yn y meysydd sydd wedi'u datganoli sy'n ymwneud yn amlwg â phlismona, a dyna pam ein bod ni, yn amlwg, eisiau datganoli plismona, y bartneriaeth rhwng y pedair ardal heddlu, ond wrth gwrs, mae unrhyw feysydd eraill sy'n gorgyffwrdd o ran ymgysylltiad yr un mor ddilys. Nawr, mae'r materion sefydliadol hynny yn amlwg yn faterion i'r prif gwnstabl, ond maent yn cael eu trafod, felly nid wyf yn credu bod sail i feirniadaeth yn hynny o beth, oherwydd rydym yn edrych i weld sut y gall y bartneriaeth rhwng ein cyfrifoldebau a'n plismona weithio ar y cyd gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu bod y pwyntiau a wnewch ynglŷn ag a ydynt yn gynaliadwy neu beidio yn dylanwadu'n fawr ar bwysigrwydd cael y bartneriaeth honno, cael yr ymgysylltiad hwnnw neu danseilio'r safbwynt rydym wedi'i fabwysiadu, ond hefyd fod y comisiynwyr heddlu a throseddu o'r farn—y pedwar ohonynt, sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd—fod yna werth i ddatblygu datganoli plismona.
Heb i'r bwlch hwn gael ei lenwi, mae'n amlwg nad oes sail wirioneddol dros fwrw ymlaen ar sail adroddiad rhannol yn unig.
Ond wrth ymateb i chi ym mis Mai, nodais dystiolaeth yn dangos bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn mabwysiadu ymagwedd fwy tebyg i un Llywodraeth Cymru tuag at ymdrin â chyfiawnder ac mae wedi datgan dro ar ôl tro ei bod yn ffafrio polisi'n seiliedig ar atal drwy fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, gan ddyfynnu, er enghraifft, 'Papur Gwyn Strategaeth Carchardai' Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU i adsefydlu troseddwyr a thorri troseddu; y strategaeth troseddwyr benywaidd i ddargyfeirio troseddwyr benywaidd bregus oddi ar lwybr o ddedfrydau byr o garchar; a chynllun datrys problemau Llywodraeth y DU i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynt nag erioed er mwyn helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag symud ymlaen at droseddu pellach, mwy difrifol.
Fe chithau, dyfynnais gyn-Weinidog cyfiawnder y DU, yr Arglwydd Wolfson, yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith ym mis Hydref 2021, lle nododd fod bod yn rhan o system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn gwneud Cymru'n lle mwy deniadol i wneud busnes ac
'Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y gwaith ar y cyd ar gefnogi menywod a phobl ifanc, ac yn bwrw ymlaen â rhai o argymhellion Comisiwn Thomas'.
Pa gynnydd a wnaed ar hyn felly yn y 13 mis ers hynny—rwy'n derbyn y gallech gael eich temtio i ymateb drwy wneud sylwadau ar y mis neu ddau diwethaf yn unig—wrth i ni symud ymlaen?
Diolch am y cwestiwn. Nid yw'r trafodaethau sy'n digwydd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn rhywbeth a ddigwyddodd yn ystod y misoedd diwethaf yn unig—mae'n broses hir, barhaus. Un o'r rhesymau ei fod yn rhan o'r broses hir honno yw oherwydd bod yna gamweithredu gwirioneddol yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae'n rhaid imi ddweud mai fy marn i yw bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn gamweithredol ac nad yw'n gweithio. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cyhoeddi papur, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', er mwyn cyfleu'r syniadau hynny, nid mewn perthynas â phwy sy'n rheoli cyfiawnder neu beth bynnag, ond sut y gellir ei ddarparu'n well yn y bôn? A byddech yn berffaith iawn i ofyn am fanylion ynglŷn â sut y credwn y gellir darparu hynny'n well.
O'r gwaith sy'n digwydd, mae llawer ohono'n cael ei wneud gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â materion menywod; y glasbrint i fenywod; y gwaith cyfiawnder ieuenctid sy'n mynd rhagddo; y materion sy'n ymwneud â chadw a charcharu menywod. Mae'r rheini'n bethau sydd wedi bod ar y gweill ers llawer iawn o fisoedd a hefyd wedi galw am bartneriaeth rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru a rhwng yr holl asiantaethau a chyrff eraill sydd â diddordeb uniongyrchol yn hynny. A chredaf fod y rheini wedi bod yn effeithiol iawn ac yn llwyddiannus iawn, ond dim ond rhan o'r darlun ydynt.
Cafwyd cyhoeddiad diddorol iawn gan Brifysgol Caerdydd ar gyfiawnder troseddol—System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg—sy'n dechrau tynnu sylw o ddifrif at y camweithredu yn ein system gyfiawnder: y ffaith nad oes cysondeb priodol rhwng yr holl swyddogaethau datganoledig a Gweinyddiaeth Gyfiawnder sy'n ganolog iawn, lle nad yw Cymru ond yn chwarae rhan ymylol iawn.
Fe wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â phlismona hefyd. Hynny yw, gadewch inni fod yn onest am y materion sy'n ymwneud â throseddu a gweithrediadau'r heddlu: pan ddaeth y Llywodraeth Geidwadol i rym yn 2010, fe wnaethoch chi dorri 22,000 o swyddogion heddlu ac rydych chi nawr yn siarad am benodi 15,000, i ryw raddau er mwyn unioni'r niwed trychinebus hwnnw a wnaed i blismona a diogelwch cymunedol.
Felly, rydym yn gweithio fel partneriaeth; rydym yn gweithio ar draws y bwrdd; rydym yn mynd ar drywydd pa gyfleoedd bynnag sydd yna i gydweithio ac mae nifer o lasbrintiau a phrosiectau'n mynd rhagddynt ar y cyd. Ond ar wyneb yr hyn sy'n digwydd y maent mewn gwirionedd. Mae angen ystyriaeth lawer dyfnach o gyfiawnder ac nid wyf yn derbyn eich safbwynt, ac nid wyf yn credu y gall unrhyw ddadansoddiad rhesymegol, yn seiliedig ar dystiolaeth o awdurdodaeth Cymru a Lloegr ddweud ei bod yn gwasanaethu Cymru'n dda. Dyna farn y daeth comisiwn Thomas iddi hefyd, ond rwy'n credu ei bod wedi'i chyfiawnhau mewn tystiolaeth sylweddol arall ers hynny.
Heb y dystiolaeth y cyfeiriais ati, ni allwn ddweud a yw'n gweithio'n well neu'n waeth nag y byddai pe bai wedi'i ddatganoli. Gallai awgrymu'r gwrthwyneb yn absenoldeb tystiolaeth o'r fath. Ac wrth gwrs, cafodd y swyddogion heddlu hynny, y toriadau, eu gwrthdroi, ac rydym bellach ar y ffordd i ddarparu 20,000 o swyddogion heddlu newydd o fewn y targed tair blynedd.
Ond wrth ymateb i chi ym mis Mai, nodais, er enghraifft, mai Cymru sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal yn y DU, ac un o'r cyfrannau uchaf o blant sy'n derbyn gofal mewn unrhyw wladwriaeth yn y byd, a gofynnais,
'Onid yw'n wir felly bod cymaint o wahaniaeth yn y ddarpariaeth o fewn system cyfiawnder troseddol ar y cyd yn dangos pam na ddylid ateb y galwadau am ddatganoli cyfiawnder troseddol?'
Hefyd, yn sgil strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU, nodais fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma wedi ysgrifennu at yr Aelodau i ddweud ei bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, ac i gyhoeddi y byddai un o'r canolfannau hyn yn agos, a gofynnais,
'Sut y bydd hyn yn helpu troseddwyr benywaidd sy'n agored i niwed yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn nes at eu cartrefi?'
Yn hytrach nag ateb, fe ddywedoch chi, fod y
'ganolfan breswyl i fenywod...yn dwyn ffrwyth' diolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Wedi hynny, cafodd cynlluniau ar gyfer y ganolfan hon eu gwrthod gan Gyngor Abertawe. Felly, beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, lle gall carcharorion benywaidd o Loegr gael eu rhyddhau o garchardai Cymru bellach i gael eu hadsefydlu mewn canolfannau yn Lloegr, ond ni all carcharorion benywaidd yng Nghymru gael eu rhyddhau i ganolfannau cyfatebol yng Nghymru?
Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd roi rheswm da iawn dros ddatganoli cyfiawnder, oherwydd dyna'n union yw un o'r rhesymau pam y buom yn gwneud hynny, pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth lle gallwn, ond mae angen datganoli cyfrifoldebau'n briodol, yn gyson ac yn drefnus i'n galluogi i gael gwared ar y rhwyg o fewn y system cyfiawnder troseddol. Rydych yn sôn am y niferoedd o bobl sydd mewn gofal, ac rydych yn sôn am y niferoedd sydd yn y carchar, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n glir iawn o'r data yw bod Cymru ymhlith un o'r mannau gyda'r niferoedd uchaf o fenywod yn y carchar. Rwy'n credu mai gennym ni hefyd y mae'r lefel uchaf bron o bobl o gefndiroedd ethnig yn y carchar—rhai o'r ffigyrau uchaf yn Ewrop. Maent i gyd yn rhan o'r system gyfiawnder sydd heb ei datganoli, ac maent i gyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ynglŷn â pham fod angen datganoli cyfiawnder mewn gwirionedd.
Fe gyfeirioch chi eto at y ffigur plismona, ac yn y blaen. Wel, rydych chi wedi bod mewn grym ers 2010; mae wedi cymryd 12 mlynedd ichi ddechrau unioni'r niwed a wnaed yn sgil y toriadau enfawr i blismona a ddigwyddodd.
Ar wrthod y cais cynllunio i'r ganolfan i fenywod yn Abertawe, mater i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth gwrs yw ystyried nawr sut mae'n bwriadu ymateb i hynny. Ond unwaith eto, cyfrifoldeb i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hynny.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch, Gwnsler Cyffredinol, eich bod wedi cyfeirio at y cyhoeddiad diweddar, System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg, gan Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, a byddwn yn ei argymell yn fawr i lefarydd y Ceidwadwyr fel deunydd darllen—efallai y byddai hyd yn oed yn helpu i agor ei lygaid rywfaint i realiti'r sefyllfa. Oherwydd rydych yn hollol iawn i ddweud—. Mae'n amlinellu'n fanwl sut mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn unigryw, ac er bod gan ein cenedl ei Llywodraeth a'i Senedd ddatganoledig ei hun wrth gwrs, nid oes system gyfiawnder Gymreig yn bodoli sy'n cyfateb i systemau cyfiawnder yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach, mae gwrit sefydliadau cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn parhau. Eto i gyd, mae cyfrifoldebau helaeth sefydliadau datganoledig Cymru yn sicrhau eu bod o reidrwydd yn chwarae rhan sylweddol mewn cyfiawnder troseddol, ac o ganlyniad, mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn gweithredu ar draws y rhwyg rhwng pwerau cyfrifoldeb datganoledig a heb eu datganoli.
Felly, pa drafodaethau a gawsoch i sicrhau ein bod yn creu system gyfiawnder Gymreig er mwyn gwella rhai o'r canlyniadau cyfiawnder troseddol gwaethaf yng ngorllewin Ewrop gyfan? A hefyd, a wnewch chi drafod â'ch cymheiriaid Llafur yn Llundain i sicrhau y bydd unrhyw ddarpar Lywodraeth Lafur yn y DU yn datganoli cyfiawnder, yr heddlu a charchardai i Gymru?
Diolch am y cwestiwn a diolch am y sylwadau. Rwy'n sicr yn cytuno â chi fod y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth wirioneddol arwyddocaol. Ac wrth gwrs, mae'n codi'r pwynt: un o'n prif bryderon—roeddwn yn bwriadu sôn am hyn gyda'r cwestiwn olaf—yw dadgyfuno data. Mae angen y sylfaen dystiolaeth honno arnom, mae angen y data hwnnw arnom. Oni bai bod y data hwnnw wedi'i ddadgyfuno er mwyn inni wybod sut mae'n berthnasol i Gymru, mae'n anodd iawn pennu polisi mewn gwirionedd, i werthuso'n union beth sy'n digwydd, pam mae'n digwydd, a sut mae ei newid. Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' ym mis Mai, ac rydym wedi cyfeirio at hwnnw, ac mae wedi cael ei grybwyll yn gyson.
Rwyf wedi bod yn codi'r materion hyn yn yr holl drafodaethau a gefais gyda chymheiriaid ar lefel Llywodraeth y DU, ac rydym wedi ei wneud mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, byddwn yn parhau i weithio, byddwn yn parhau i gydweithio ym mhob maes lle gallwn weithio ar y cyd i wella'r system gyfiawnder. Mae nifer o brosiectau felly ar y gweill. Yn ail, byddwn yn nodi prosiectau ychwanegol y gallwn weithio gyda hwy. Mae rhai diddorol iawn ar y gweill gyda sefydlu canolfan y gyfraith ar gyfer cam-drin domestig i fyny yng ngogledd Cymru; rydym yn aros am benderfyniad ar ariannu ac rydym yn obeithiol y bydd hynny'n digwydd. Efallai y byddwn yn edrych ar honno fel model yn rhan o bolisi ehangach ar gyfer datblygu canolfannau'r gyfraith a mynediad at gyfiawnder.
Ond hefyd, byddwn yn dechrau paratoi ar gyfer darparu cyfiawnder, yn enwedig mewn meysydd lle mae'r cysylltedd rhwng cyfrifoldebau datganoledig mor amlwg. Byddwn yn dweud nad oes dadl resymegol dros beidio â datganoli cyfiawnder ym maes y gwasanaeth prawf ac ym maes cyfiawnder ieuenctid. Hyd yn oed pe baem yn dechrau gyda hynny. Ac wrth gwrs, mae'r ddadl dros bolisi cyfiawnder a'r materion hyn yn ymwneud yn rhannol â chael gwared ar y meddylfryd fod hyn rywsut yn ymwneud â phwy sy'n rheoli rhywbeth, yn hytrach na sut i ddarparu cyfiawnder yn well. Ac yn fy marn i, a'r rheswm rwy'n gweithio mor agos gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a hithau gyda minnau, ar y rhain, yw bod rhan allweddol o'r system gyfiawnder yn gyfiawnder cymdeithasol, ac mae cyfuno'r ddau'n ei gwneud hi'n gwbl hanfodol, yn sicr yn y meysydd hynny, fod cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, ac yn y tymor hwy, fod diwedd ar gamweithrediad system farnwrol ganolog iawn ar gyfer Cymru a Lloegr, sydd hefyd yn cael effeithiau andwyol sylweddol yn y ffordd y caiff ei darparu yn Lloegr hefyd.
Diolch am hynny. Rydych wedi rhestru ymgysylltiad â Llywodraeth y DU. Rwy'n dal i aros am rywbeth mewn perthynas â'ch Plaid Lafur eich hun yn y DU; efallai y gallech ehangu ychydig bach mewn eiliad.
Roeddwn yn awyddus i'ch holi chi ynglŷn â rhywbeth arall hefyd, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod ei Bil Hawliau i ddychwelyd i Senedd San Steffan yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n datgymalu Deddf Hawliau Dynol 1998 a wnaeth hawliau dynol yn rhan o gyfraith ddomestig ac ar gael i bawb yn y DU. Felly, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno bod hawliau dynol mewn gwirionedd yn un o gonglfeini datganoli, a bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu hawliau dynol yng Nghymru drwy sicrhau, er enghraifft, ein bod yn cael Bil hawliau dynol ar gyfer Cymru?
Wel, yn gyntaf, rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â'r Bil hawliau, ac wrth gwrs, 10 Rhagfyr yw Diwrnod Hawliau Dynol, a gobeithio y bydd dadl sylweddol yn y Siambr hon. Ar un adeg, roedd yn edrych fel pe gallem fod wedi dadl ar Ddiwrnod Hawliau Dynol heb fod angen cyfeirio at y Bil hawliau. Dywedwyd wrthym ei fod wedi'i roi o'r neilltu. Yn anffodus, mae un o brif symbylwyr y peth wedi dychwelyd, ac mae'n ymddangos ei fod yn ôl ar yr agenda eto.
Mae o fewn portffolio yr Arglwydd Bellamy, y byddaf yn ei gyfarfod yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Felly, bydd cyfle i drafod yno. Nid ydym yn gwybod beth yn union fydd ffurf y Bil hwn, a yw'n mynd i olygu bod y Bil yn dychwelyd i'w ffurf bresennol yn llwyr. Nawr, mae hynny'n ymddangos i mi fel rhywbeth sy'n mynd i fod yn anodd iawn, oherwydd pan gafodd ei roi o'r neilltu, roedd cymaint o Weinidogion Llywodraeth y DU ac Aelodau Seneddol yn dweud yn y bôn, 'Wel, mae wedi cael ei roi o'r neilltu, mae'r peth yn llanast llwyr, felly ni all fynd rhagddo fel mae; dyna pam ein bod wedi ei roi o'r neilltu.' Wel, mae'n dod yn ôl bellach ac yn amlwg mae'n rhaid iddynt wneud rhywbeth i ddatrys y ffaith ei fod, ar ei ffurf bresennol, yn llanast llwyr.
Ond mae'n rhywbeth sydd yn ei hanfod yn tanseilio hawliau dynol. Mewn gwirionedd, mae'n amddifadu unigolion o hawliau. Ni waeth am ddadl Brexit ynglŷn ag adfer rheolaeth; mae'n amddifadu dinasyddion unigol yn y DU o bŵer.
Ar Fil i Gymru, a'r hyn y gallwn ni ei wneud yng Nghymru, mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno'n agos iawn. Beth yw'r opsiynau ar gyfer cryfhau'r ymrwymiad sydd gennym i hawliau dynol ymhellach, naill ai yn ein deddfwriaeth, yn ein polisïau, ac a yw hynny'n golygu drwy gyfrwng fformat deddfwriaethol neu beth bynnag, nid wyf yn gwybod. Ond mae'n fater sy'n cael ei drafod yn y grŵp cynghori ar hawliau dynol sydd wedi'i sefydlu, ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, grŵp a gadeiriais y diwrnod o'r blaen. Felly, mae hyn ar y radar yn amlwg iawn ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn parhau a'n bod yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd.