Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Ac a gaf fi ddiolch iddo am ei waith parhaus gyda mi ar hyrwyddo'r angen am ddeddf Hillsborough? Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog nesaf, Syr Keir Starmer, wedi defnyddio agoriad ei araith gynhadledd yn Lerpwl i ymrwymo ei Lywodraeth Lafur yn y dyfodol i weithredu deddf Hillsborough. Mae hwn nid yn unig yn gam beiddgar, ond dyma'r cam cywir i'w gymryd. Mae'n rhy anodd i bobl yn y wlad hon sydd heb lawer o fodd gael mynediad at y cyfiawnder maent yn ei haeddu. A wnewch chi ymrwymo'r Llywodraeth Lafur hon i gefnogi Syr Keir yn ei gynlluniau ar gyfer deddf Hillsborough, a'i alwadau hefyd am etholiad cyffredinol i wireddu hynny?